Apêl rhieni i Gabinet Cyngor Sir Gâr beidio cau Ysgol Llanst
2026-02-20
Cartref > Newyddion > Apêl rhieni i Gabinet Cyngor Sir Gâr beidio cau Ysgol Llanst
O flaen trafodaeth yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Sir Gâr ddydd Llun (23 o Chwefror) mae Cymdeithas Rieni ac Athrawon Ysgol Llansteffan wedi apelio ar y Cyngor Sir i beidio argymell bod y cyngor llawn yn cymeradwyo cau yr ysgol fis Awst eleni.
Mewn llythyr at aelodau'r Cabinet maent yn galw am atal y broses oherwydd:
- Nid yw Comisiynydd y Gymraeg wedi gorffen ei hymchwiliad i gŵyn ynglŷn â'r asesiad o effaith cau yr ysgol ar y Gymraeg
- Does neb o'r Cyngor wedi ymweld a'r ysgol i sefydlu ffeithiau a roddir fel rhesymau dros gau
- Ni fu unrhyw drafodaeth ystyrlon o'u cynlluniau cyffrous i ddatblygu'r ysgol yn Ganolfan Astudiaethau Amgylcheddol ac Addysg Awyr Agored
- Fod llawer o gamgymeriadau ffeithiol yn yr adroddiad fydd gerbron y Cyngor
Mae Rhanbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith wedi ategu cais y Gymdeithas Rieni ac Athrawon ar i'r Cabinet yn eu cyfarfod fore Llun nesaf i beidio ag argymell cau'r ysgol. Mewn llythyr at yr aelod cabinet â chyfrifoldeb dros addysg dywed y Gymdeithas fod Adroddiad Gwrthwynebu yr Hysbysiad Statudol i gau yr ysgol wedi anwybyddu dadl y Gymdeithas y caiff nifer o blant eu gorfodi allan o addysg Gymraeg.
Mae llythyr Cymdeithas yr Iaith at yr aelod cabinet â chyfrifoldeb dros addysg i'w weld yma