Disgwyliadau uchel o Weinidog newydd y Gymraeg
2026-07-07
Cartref > Newyddion > Disgwyliadau uchel o Weinidog newydd y Gymraeg
Ar drothwy datganiad y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan AS, ar ei blaenoriaethau ar gyfer y Gymraeg yn ddiweddarach heddiw mae ein disgwyliadau ni a phobl Cymru yn uchel, mae angen “pennod newydd radical” i’r Gymraeg, gan barchu hawliau iaith a dechrau gweithredu o ddifrif i gyflawni targedau.
Dywedodd Owain Meirion, Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’r gweinidog yn etifeddu grymoedd sylweddol a chynlluniau parod sydd wedi’u hennill yn sgil ymgyrchoedd y blynyddoedd diwethaf – o’r pwer i gyflwyno hawliau iaith newydd ar unwaith ar gwmnïau trydan, nwy a ffonau symudol ariannog; i’r grym i sicrhau bod pob person ifanc yn y dyfodol yn gadael yr ysgol yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn hyderus yn sgil Deddf Addysg a’r Gymraeg a basiwyd y llynedd; i gynlluniau i droi’r llanw sy’n achosi tranc ein cymunedau Cymraeg.”
Daw’r datganiad dridiau wedi rali ‘Troi’r Llanw’ y mudiad ym Mhorthmadog lle cafwyd llefarwyr o gymunedau o bob rhan o Gymru yn galw ar y Llywodraeth i weithredu. Mewn llythyr o gefnogaeth i’r rali, dywedodd Anna Brychan AS:
“Dwi am ddechrau drwy ddweud un peth clir: dyw’r Gymraeg erioed wedi datblygu drwy ewyllys da yn unig. Mae wedi symud ymlaen oherwydd bod pobl wedi mynnu newid, wedi dal sefydliadau i gyfrif, ac wedi gwrthod derbyn y statws quo.
“Dyna pam mae gwaith Cymdeithas yr Iaith mor bwysig. Am ddegawdau, rydych chi wedi cadw pwysau arnon ni i gyd – yn deg, yn ddygn, ac weithiau yn anghyfforddus.
“Felly diolch i chi am eich gwaith diflino, ac am yr aberth o amser, egni – a rhyddid – sydd wedi helpu i sicrhau dyfodol i’n hiaith ni.”
Ychwanegodd Owain Meirion:
“Roedd llywodraethau blaenorol yn ddigon parod eu geiriau cynnes, ond yn llai parod i weithredu’r camau angenrheidiol i atal y dirywiad yn sefyllfa’r Gymraeg dros y degawdau diwethaf a sicrhau dyfodol cadarnhaol i’r iaith, tra’n gweithio yn y cefndir gyda Chomisiynydd y Gymraeg i wanhau gorfodi ein hawliau.
“Fe wnaethon ni groesawu neges o gefnogaeth y Gweinidog Anna Brychan i’n Rali Troi’r Llanw ym Mhorthmadog dros y penwythnos. Mae’r sylw bellach yn troi at ei datganiad pwysig heddiw. Edrychwn ymlaen at fanylion ymarferol – y sut, pryd, pwy, faint o gyllid – i newid tueddiad llywodraethau’r gorffennol o’r diwedd
“Mae’n rhaid i’r Gweinidog newydd gyflwyno pennod newydd radical fydd yn cymryd hawl pobol Cymru i'r Gymraeg o ddifrif ac yn cyflawni targedau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn bob dydd i bobl yn eu cymunedau.
“Mae’n rhaid i’r Gweinidog hefyd ddatgan ei disgwyliad y bydd y Comisiynydd Iaith yn dychwelyd at ei phriod waith o weithredu a gorfodi’r hawliau a sefydlir gan y Mesur Iaith.
“Edrychwn ymlaen i gydwethio’n adeiladol gyda’r Gweinidog newydd i sicrhau mai’r Llywodraeth hon fydd yn troi’r llanw dros y Gymraeg – yn cyflwyno addysg Gymraeg i bawb a’r gweithlu i’w ddarparu, yn cwblhau’r gwaith o gyflwyno hawliau o dan Fesur y Gymraeg a’u hymestyn ar fyrder i weddill y sector breifat a’u gorfodi’n effeithiol, ac yn cyflawni holl argymhellion tri adroddiad y comisiwn arbenigol ar gymunedau Cymraeg."
Ymrwymodd y Llywodraeth newydd yn ei maniffesto i:
-
“[W]eithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg”, “deddfu i gael mesurau diogelu newydd i ardaloedd o ddwysedd ieithyddol uwch, gan weithio gydag awdurdodau lleol i benderfynu sut a ble y dylid dynodi’r ardaloedd hyn” ac “ymateb i ail adroddiad y Comisiwn a’i argymhellion ynghylch ardaloedd sydd â dwysedd canolig ac is o siaradwyr Cymraeg erbyn diwedd 2026, gan nodi cynllun clir sy’n dwyn ynghyd gamau gweithredu yn seiliedig ar holl argymhellion y Comisiwn”.
-
“Cryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg drwy weithio i ymestyn Safonau’r Gymraeg i gyrff ac asiantaethau Llywodraeth y DU sy’n gweithredu yng Nghymru, ac i’r sector preifat – gan gynnwys cyfathrebiadau, cyfleustodau, banciau, meysydd parcio, ac archfarchnadoedd”.
-
“Cynyddu cyfran a nifer y plant a phobl ifanc sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg, fel rhan ganolog o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg o leiaf erbyn 2050”, “cymryd camau i sicrhau bod gan bob plentyn hawl i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus drwy ddefnyddio’r pwerau yn Neddf y Gymraeg ac Addysg yn llawn” a “sicrhau bod Addysg Gychwynnol i Athrawon yng Nghymru yn cynnwys hyfforddiant Cymraeg gorfodol, gyda’r nod hirdymor bod pob athro yn gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg”.