Drakeford yn gorfodi Comisiynydd i sôn am hawliau yn ‘sioc’

2026-08-03

Cartref > Newyddion > Drakeford yn gorfodi Comisiynydd i sôn am hawliau yn ‘sioc’

Roedd yn rhaid i’r cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford ofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ddefnyddio’r gair ‘hawl’ yn ei pholisi rheoleiddio, yn ôl gwybodaeth a ryddhawyd i fudiad iaith. 

Mae’r ohebiaeth, sydd wedi’i chyhoeddi o'r newydd yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith, yn datgelu trafodaethau rhwng swyddfeydd Mark Drakeford a Chomisiynydd y Gymraeg Efa Gruffudd Jones am ddogfen sy’n pennu sut mae hi’n rheoleiddio.

Polisi Gorfodi Comisiynydd y Gymraeg yw’r ddogfen statudol sy’n amlinellu sut mae’r Comisiynydd yn gwneud ei gwaith rheoleiddio.  

Ym mis Mawth eleni, ysgrifennodd Mr Drakeford a oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar y pryd: “the only point where I didn't agree immediately was at paragraph 28. What is the objection to including reference to ‘rights’?” . 

Mewn gohebiaeth ddilynol, adroddwydodd bod y Comisiynydd a swyddogion, yn gweithredu ar gais y Gweinidog, wedi cael trafodaeth anffurfiol, gan ddweud: “She [y Comisiynydd] proposes to include a direct reference to the 'rights' of individuals within the context of the standards system in her foreword to the document.”

Mabwysiadwyd y polisi terfynol sydd bellach  yn cynnwys y gair ‘hawl’ yn unol â gofyniad y Gweinidog ddiwedd mis Mawrth eleni.   

Mae “rhoi sylw” i hawliau iaith pobl sy’n deillio o Safonau’r Gymraeg yn rhan o brif nod statudol Comisiynydd y Gymraeg, swydd a sefydlwyd yn 2011. 

Dywed ymgyrchwyr ei bod yn ‘sioc’ bod yn rhaid i Weinidog ddweud wrth Gomisiynydd y Gymraeg y dylai ddefnyddio’r gair ‘hawl’. 

Maent yn dadlau mai dim ond yr enghraifft ddiweddaraf yw hyn, mewn cyfres o gamau  mae’r Comisiynydd,  Efa Gruffudd Jones wedi'u cymryd, i wanhau ffocws rheoleiddiol ei swydd. 

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Siân Howys o Gymdeithas yr Iaith:

“Rydym wedi ein synnu a’n siomi’n fawr bod Gweinidog Llafur wedi gorfod dweud wrth y Comisiynydd y dylai sôn am hawliau i’r Gymraeg. O ystyried bod ganddi ddyletswydd statudol i barchu a hyrwyddo ein hawliau iaith, mae’n codi cwestiynau mawr pellach am yr hyn mae hi’n ei wneud, a ddim yn ei wneud. 

“Dim ond un rheoleiddiwr statudol dros y Gymraeg, dim ond un pencampwr, sydd ganddon ni. Os nad yw hi’n gwneud ei gwaith yn iawn, does neb arall sydd â'r pwerau i'w wneud. Heb os, rydym yn anfodlon iawn gyda diffyg pwyslais y Comisiynydd ar sicrhau hawliau iaith Gymraeg. Allwn ni ddim troi'r llanw o blaid y Gymraeg gydag ymddygiad fel hyn gan Gomisiynydd y Gymraeg.”

Mae Cymdeithas yr Iaith bellach wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg yn gofyn am adolygiad o waith Comisiynydd y Gymraeg a’i chydymffurfiaeth â swyddogaethau statudol. 

Yn y llythyr, mae’r mudiad yn rhestru sawl pryder am y modd mae’r Comisiynydd presennol yn ymgymryd â’i rôl gan gynnwys:

  • Methiant i ymchwilio i fwyafrif helaeth y cwynion dilys a gyflwynwyd: gostyngodd canran yr ymchwiliadau i’w lefel isaf erioed yn 2024/25, sef 26%;

  • Symud swyddfa’r Comisiynyddi bencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays;

  • Sgrapio Diwrnod Hawliau i’r Gymraeg;

  • Gwanhau yn sylweddol Bolisi Gorfodi a Chynllun Strategol y corff, gan gyflwyno agenda “cyd-rheoleiddio”;

  • Lleihau yn sylweddol nifer a natur y camau gorfodi: gosodwyd 261 o gamau gorfodi yn 2021/22 ond o dan y Comisiynydd presennol 66 o gamau gorfodi yn unig a osodwyd yn 2024/25.

Ychwanegodd Siân Howys o Gymdeithas yr Iaith:

“Os ystyriwn ni’r hyn mae Efa Gruffudd Jones wedi’i wneud ers cael ei phenodi i’r swydd - gan y Prif Weinidog Llafur ar y pryd - mae’n glir ei bod wedi gwthio agenda sy’n groes i’w phwrpas fel sydd wedi’i osod mewn deddf. Dylai fod yn fater o gryn embaras  iddi ei bod yn gweithredu'n groes i'w phrif nod statudol. Rydyn yn galw ar y Llywodraeth newydd i gynnal adolygiad brys o waith y Comisiynydd ac i geisio am sicrwydd ei bod yn gweithredu mewn ffordd sy’n rhoi pwyslais clir ar hawliau iaith ac ei bod yn arfer y pwerau rheoleiddiol hynny er budd pobl yn hytrach na sefydliadau.”

Pob newyddion