Galw ar y Comisiynydd i adfer Diwrnod Hawliau’r Gymraeg
2025-12-07
Cartref > Newyddion > Galw ar y Comisiynydd i adfer Diwrnod Hawliau’r Gymraeg
Mewn llythyr agored at Gomisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones, mae cynrychiolwyr undebau myfyrwyr a mudiadau iaith wedi galw am adfer Diwrnod Hawliau’r Gymraeg.
Ymhlith yr unigolion sydd wedi llofnodi’r llythyr mae Cynwal ap Myrddin (Is-lywydd y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Caerdydd), Tanwen Moon (Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Abertawe), Nanw Maelor (Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth), Huw Williams (Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor), Deio Owen (Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru), Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Merched y Wawr) ac Aled Thomas (Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith).
Rhwng 2019 a 2022, roedd Swyddfa’r Comisiynydd yn arfer cynnal ‘Diwrnod Hawliau’r Gymraeg’ bob blwyddyn ar 7 Rhagfyr gyda’r nod o greu “un ymgyrch fawr i godi ymwybyddiaeth o hawliau'r cyhoedd i ddefnyddio'r Gymraeg”.
Yn dilyn penodi’r Comisiynydd presennol, cafodd ymgyrch ‘Defnyddia dy Gymraeg’ ei lansio yn 2023 gan ddisodli diwrnod ‘Hawliau i’r Gymraeg’.
Mae ymgyrchwyr iaith a chynrychiolwyr Undebau Myfyrwyr Cymru wedi beirniadu’r penderfyniad yma, gan ddadlau ei fod yn dystiolaeth fod Swyddfa’r Comisiynydd wedi cefnu ar roi pwyslais ar hawliau i’r Gymraeg.
Yn eu llythyr at y Comisiynydd, mae nhw’n dweud:
“Nodwn hefyd fod adran 3(3)(b) Mesur y Gymraeg yn rhoi dyletswydd statudol ar y Comisiynydd wrth arfer swyddogaethau o dan y Mesur i roi sylw i'r “hawliau sy'n deillio o allu gorfodi'r dyletswyddau” sydd wedi'u gosod ar ffurf y safonau. Mae'r safonau hyn yn rhoi hawliau grymus i ddefnyddio'r Gymraeg gydag ystod o gyrff a sectorau - yr hawl i fyfyriwr wneud cais am lety myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, yr hawl i gyflwyno gwaith asesedig yn Gymraeg yn y sector addysg, a'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg wrth fanteisio ar ddarpariaeth hamdden awdurdodau lleol.”
Ac mae’n parhau:
“Credwn ei bod yn bwysig ein bod yn hyderus i drafod ein hawliau ieithyddol yng Nghymru a bod dinasyddion yn gwybod sut i fynnu eu hawliau. Rydyn ni'n pryderu felly, ers 2023, nad yw Diwrnod Hawliau'r Gymraeg yn cael ei gynnal bellach a bod eich swyddfa wedi rhoi'r gorau i gydlynu'r digwyddiad.”
Er bod y Comisiynydd wedi rhoi'r gorau i drefnu'r digwyddiad blynyddol, mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu bwriad UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth) i gynnal digwyddiad yn Neuadd Pantycelyn ym mis Rhagfyr sef Diwrnod Hawliau’r Gymraeg, ar eu liwt eu hunain, fel rhan o ddathlu dengmlwyddiant yr ymgyrch lwyddiannus yn erbyn cau’r Neuadd. Meddai Nanw Maelor, Llywydd UMCA:
"Yma’n UMCA, rydym yn rhan o linach o fyfyrwyr yr hanner can mlynedd a mwy ddiwethaf ac yn ddyledus i'r rheiny a oedd yn arwyddo’r deisebau neu’n creu’r placardiau sy’n hel llwch yn y swyddfa heddiw. Ein bwriad yw pontio’r atgofion a’r gobeithion am ddyfodol llewyrchus i'r Gymraeg drwy nodi’r brwydrau er hawliau myfyrwyr UMCA, yn ogystal â chreu o’r newydd a chydnabod yr heriau sy’n parhau i fod yn rhan o’r frwydr heddiw."
Yn ôl Aled Thomas, Cadeirydd Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith:
“Mae disodli Diwrnod Hawliau’r Gymraeg gyda’r ymgyrch annigonol a chamarweiniol, ‘Defnyddia dy Gymraeg’, yn gam annerbyniol ac yn rhan o batrwm ehangach. Mae strategaeth gyhoeddus y Comisiynydd presennol yn symud y cyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg oddi ar sefydliadau ac yn ei roi ar ysgwyddau siaradwyr Cymraeg. Ar yr un pryd, nid yw’r Comisiynydd i’w gweld yn rhoi sylw digonol i gymryd camau yn erbyn cyrff sy’n methu cydymdffurfio â Safonau’r Gymraeg na chwaith yn bod yn ddigon rhagweithiol i ddangos yr angen i ymestyn ei phwerau i reoleiddio sefydliadau fel cwmnïau ffôn ac ynni, archfarchandoedd a’r banciau.
“Rydyn ni’n falch bod undebau myfyrwyr yn gweld pwysigrwydd pwysleisio hawliau iaith pobl ifanc Cymru a bod myfyrwyr Aberyswyth yn cynnal eu digwyddiad eu hunain i nodi Diwrnod Hawliau’r Gymraeg er mwyn dathlu ymgyrchu i sicrhau gofodau Cymraeg. Mae'r Safonau yn rhoi’r hawl i fyfyrwyr gael llety myfyrwyr cyfrwng Cymraeg a dylai'r Comisiynydd fod yn hyrwyddo ac yn gorfodi hawl pobl i gael gwasanaethau Cymraeg yn ddi-ofyn.”
Y llythyr yn llawn:
Annwyl Gomisiynydd,
Deallwn fod Diwrnod Hawliau'r Gymraeg wedi'i gynnal yn flynyddol o'r 6ed Rhagfyr 2019 nes 7fed Rhagfyr 2022. Swyddfa'r Comisiynydd oedd yn gyfrifol am drefnu a chydlynu'r digwyddiad ac fe'i disgrifiwyd fel “un ymgyrch fawr i godi ymwybyddiaeth o hawliau'r cyhoedd i ddefnyddio'r Gymraeg”.
Nodwn hefyd fod adran 3(3)(b) Mesur y Gymraeg yn rhoi dyletswydd statudol ar y Comisiynydd wrth arfer swyddogaethau o dan y Mesur i roi sylw i'r “hawliau sy'n deillio o allu gorfodi'r dyletswyddau” sydd wedi'u gosod ar ffurf y safonau. Mae'r safonau hyn yn rhoi hawliau grymus i ddefnyddio'r Gymraeg gydag ystod o gyrff a sectorau - yr hawl i fyfyriwr wneud cais am lety myfyrwyr cyfrwng Cymraeg, yr hawl i gyflwyno gwaith asesedig yn Gymraeg yn y sector addysg, a'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg wrth fanteisio ar ddarpariaeth hamdden awdurdodau lleol.
Credwn ei bod yn bwysig ein bod yn hyderus i drafod ein hawliau ieithyddol yng Nghymru a bod dinasyddion yn gwybod sut i fynnu eu hawliau.
Rydyn ni'n pryderu felly, ers 2023, nad yw Diwrnod Hawliau'r Gymraeg yn cael ei gynnal bellach a bod eich swyddfa wedi rhoi'r gorau i gydlynu'r digwyddiad.
Gofynnwn i chi adfer yr arfer o gynnal y diwrnod o 2026 ymlaen.
Yn Gywir,
Aled Thomas - Cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith
Cynwal ap Myrddin - Is-Lywydd y Gymraeg, Undeb Myfyrwyr Caerdydd
Tanwen Moon - Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Abertawe
Nanw Maelor - Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth
Huw Williams - Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor
Deio Owen - Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru
Tegwen Morris - Prif Weithredwr Merched y Wawr