Gweithredu dros Balesteina

2025-07-07

Cartref > Newyddion > Gweithredu dros Balesteina

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod diffyg gweithredu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i atal yr hil-laddiad sy’n digwydd i bobl Palesteina yn Gaza, a’r ffaith bod y Llywodraeth bellach yn tawelu’r lleisiau sy’n tynnu sylw at y gormes, yn ddatganiad clir o’i safiad – ac mae’n ddyletswydd arnon ni i ymateb.

Mae’r mudiad wedi dweud ei fod yn sefyll mewn undod ag unigolion a mudiadau sy’n gweithredu’n uniongyrchol i dynnu sylw at ran y Deyrnas Unedig mewn troseddau sy’n cael eu cyflawni yn erbyn pobl Palesteina, a’r camddefnydd cynyddol o gyfreithiau gwrthderfysgaeth i dawelu protestwyr sy’n tynnu sylw at hynny.

Yn ôl Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith:

“Yn hytrach na gweithredu i atal y gyflafan yn Gaza mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi parhau i werthu arfau i Israel. Does dim ymdrech wedi bod i bwyso ar Lywodraeth Israel i roi diwedd ar ei gwarchae ar gymorth dyngarol rhyngwladol nac am gadoediad a heddwch ar draws Palesteina ac Israel. Nid yn unig hynny, ond mae’r Llywodraeth yn mynnu tawelu lleisiau’r rhai sy’n fodlon codi eu llais, yn heddychlon ac yn ddemocrataidd, yn erbyn y gyflafan honno."

“Mae hynny’n ymosodiad ar yr hawl i weithredu’n uniongyrchol dros gyfiawnder a rhyddid, sy’n egwyddor sylfaenol i ni fel mudiad, o ystyried y rôl hanfodol mae protest a gwrthwynebiad yn ei chwarae yn hanes cymdeithasol Cymru a’r byd. Rhaid i Gymru barhau i fod yn wlad lle gall pobl sefyll dros gyfiawnder yn rhydd, a bydd Cymdeithas yr Iaith wastad yn sefyll gyda’r rhai sy’n dewis gweithredu, yn ddewr ac yn heddychlon.”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan ei bod yn sefyll mewn undod gyda phobl sy’n defnyddio protest heddychlon i wrthwynebu hil-laddiad ac erledigaeth, ac mae wedi galw ar bobl Cymru i ymuno â digwyddiad Y Llinell Goch, i alw am gadoediad rhwng Israel a Phalesteina yn Aberystwyth ar 26 o Orffennaf.

Ychwanegodd Joseff Gnagbo:

“Byddwn ni’n gweithredu dros Balesteina drwy ymuno â digwyddiad Y Llinell Goch yn Aberystwyth. Mae gyda ni bryder mawr am yr ymosodiad cynyddol ar yr hawl i brotestio’n heddychlon ac i weithredu’n uniongyrchol dros gyfiawnder rhyngwladol. Galwn ar bobl o bob rhan o Gymru i ddod at ei gilydd i sefyll mewn undod ag ymgyrchwyr eraill a chefnogi digwyddiad Y Llinell Goch gan fudiadau sy’n cefnogi Palesteina.”

Pob newyddion