Paratoi i wrthwynebu cynigion i gau tair ysgol i ddigwydd ar

2025-11-17

Cartref > Newyddion > Paratoi i wrthwynebu cynigion i gau tair ysgol i ddigwydd ar

Wedi i Gabinet Cyngor Sir Gâr gymeradwyo cynnig i ymgynghori ar gynigion i gau dwy ysgol a chyhoeddi hysbysiad statudol i gau un ysgol yn y sir dywedodd Ffred Ffransis ar ran rhanbarth Sir Gâr Cymdeithas yr Iaith:

"Ni ddylai'r cabinet fod wedi pleidleisio dros ymgynghoriad ar ôl cyfaddef nad oedd y cam chychwynnol statudol o drafod gyda'r ysgolion, sy'n cael ei alw'n gam 0 heb ddigwydd yn iawn. Roedd yr adroddiadau gan swyddogion y cyngor yn dweud yn glir na ddylent awdurdodi ymgynghoriad na hysbysiad statudol heblaw eu bod yn sicr mai dyna'r opsiwn gorau. 
Bydd y gwaith paratoi i sicrhau ymatebion i'r ymgynghoriadau a gwrthwynebiadau i'r hysbysiad statudol i gau yn digwydd yn syth, ar y cyd â'r tair ysgol."

Fe wnaeth Cabinet y Cyngor Sir gytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Llansteffan c i ymgynghori ar gynigion i gau Ysgol Meidrim ac Ysgol Y Fro, Llangyndeyrn.
 

Pob newyddion