Peilon Trydan 9' ar daith o gwmpas Maes Eisteddfod yr Urdd
2025-05-30
Cartref > Newyddion > Peilon Trydan 9' ar daith o gwmpas Maes Eisteddfod yr Urdd
Brynhawn dydd Gwener, bydd cefnogwyr Cymdeithas yr Iaith o Sir Gaerfyrddin yn cario model graddfa 1/10 o Beilon Trydan 90 troedfedd o uchder o Beilon Trydan ar draws Maes Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam at uned Llywodraeth Cymru.
Yn y fan honno, cyflwynir llythyr ar gyfer y Prif Weinidog Eluned Morgan yn "gofyn i Llywodraeth Cymru sicrhau y bydd unrhyw wifrau i drosglwyddo ynni gwyrdd trwy Sir Gaerfyrddin yn cael eu tan-ddaearu yn hytrach na thrwy adeiladu rhwydwaith eang o beilonau".
Mae'r llythyr gan Ranbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith yn parhau:
"Gofynnwn i chi sicrhau fod y Grŵp Ymgynghorol Annibynnol, wrth asesu costau trosglwyddo ynni, yn ymchwilio i ddull "tyrchu gwifrau" ("cable-ploughing") fel ag sy'n gyffredin mewn rhannau o Ewrop ac yn rhatach o lawer na dulliau traddodiadol.
"Gwrthwynebwn unrhyw fwriad i drosglwyddo ynni trwy resi o beilonau oherwydd y byddai gosod y peilonau mewn blociau mawr, a sicrhau mynediad atynt ar gyfer cynnal a chadw, yn dwyn cymaint o dir amaethyddol mewn nifer o achosion ag i wneud rhai ffermydd yn anghynaladwy. Dyna beryglu sail economaidd nifer o'n cymunedau gwledig Cymraeg."
Yn y llythyr, mae aelodau'r Gymdeithas yn pwysleisio eu bod yn gefnogol i egwyddor rhwydwaith o ynni adnewyddadwy i Gymru, ond yn mynnu y dylai rheolaeth gymunedol, yn hytrach nag elw corfforaethol na gorfodi cynlluniau o'r canol, fod yn egwyddor hanfodol wrth ddarparu'r rhwydwaith.
Bydd nifer o ffermwyr, gyda phobl ifanc sy'n cystadlu, yn cyd-gerdded gyda nhw o Gyfarfod Protest a gynhelir yn uned y Gymdeithas am 2.30pm Gwener draw at uned y Llywodraeth.
Bydd aelodau o'r band ifanc "Coron Moron" o Ddyffryn Tywi yn canu eu cân brotest am yr ymgyrch cyn yr orymdaith hynod. Byddant hefyd yn gofyn i Urdd Gobaith Cymru beidio â derbyn nawdd gan Bute Energy yn y dyfodol oni bai fod y cwmni'n newid ei fwriad i osod cannoedd o beilonau ar dir a fydd wedi'i ddwyn gan ffermwyr Cymru.
Yr un dydd, danfonir apêl e-bost at gyfarwyddwr cwmni CIP (Copenhagen Infrastructure Partners) sydd wedi buddsoddi yng nghwmnïau Bute Energy a GreenGEN gan ofyn iddynt ddefnyddio eu dylanwad i sicrhau fod llinellau trydan yn cael eu tan-ddaearu.