Synnu at benderfyniad Cyngor Sir Gâr
2026-06-01
Cartref > Newyddion > Synnu at benderfyniad Cyngor Sir Gâr
Rydym wedi ein synnu gan benderfyniad Cyngor Sir Gar i gyhoeddi Hysbysiad Statudol i Gau Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro gan fod hyn yn tanseilio ymrwymiad y llywodraeth newydd i adeiladu gwydnwch gwledig.
Yn achos Meidrim, gwrthodwyd cyfle i gydweithio gyda llywodraethwyr yr ysgol ar gynllun cyffrous i adeiladu hwb cymunedol ochr yn ochr ag ysgol a dechrau defnyddio’n hysgolion i adfywio cymunedau gwledig Cymraeg. Yn achos Ysgol y Fro Llangyndeyrn, dyma leihau eto capasiti ar gyfer addysg Gymraeg yn ardal tre Caerfyrddin, a allai olygu colli nifer i addysg Saesneg.
Dywedodd Ffred Ffransis ar ran rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:
"Bydd y Gymdeithas yn cydweithio â llywodraethwyr y ddwy ysgol i gasglu gwrthwynebiadau i’r Hysbysiadau Statudol i Gau cyn y penderfyniadau terfynol yn yr hydref. Gofynnwn hefyd i’r llywodraeth ymyrryd fel nad yw ymrwymiad at wydnwch gwledig yn ddiystyr yn ymarferol."