Ymgynghori i gau ysgolion gwledig Cymraeg yn "risg di-angen"

2025-10-13

Cartref > Newyddion > Ymgynghori i gau ysgolion gwledig Cymraeg yn "risg di-angen"

Cynnig i ymgynghori ar gau ysgolion gwledig Cymraeg Sir Gâr yn “risg di-angen”

Mae Rhanbarth Caerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith wedi anfon neges at bob aelod o Bwyllgor Craffu Addysg y Cyngor Sir o flaen eu cyfarfod yfory (Dydd Mawrth, 14 Hydref) yn eu hannog i beidio a chymeradwyo cynnig i’r Cabinet fynd ymlaen i gynnal ymgynghoriad statudol ar gynigion i gau tair ysgol wledig a hysbysiad statudol i gau un o ysgolion y sir. 

Yr ysgolion dan fygythiad yw Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn, Ysgol Llansteffan, Ysgol Meidrim ac Ysgol Pontiets.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae'r cynigion yn ddi-angen gan fod ffigurau Cyngor Sir Gaerfyrddin yn rhagweld cynnydd yn y nifer o blant sy’n mynychu’r tair ysgol yn ardal Caerfyrddin dros y 4 blynedd nesaf. Mae disgwyl y bydd y nifer sy’n mynychu Ysgol y Fro'n agos at ddyblu, y nifer yn Llansteffan yn fwy na dyblu, tra bydd nifer disgyblion Meidrim yn cynyddu o ryw 20% a'r gost y disgybl wedi dod lawr at y cyfartaledd sirol.

Byddai hyn, yn ei dro, yn gwneud y cost o gynnal yr ysgolion fesul disgybl lawer yn llai, a gall sicrwydd am eu dyfodol hefyd gynyddu niferoedd. 

Mae’r mudiad hefyd wedi rhybuddio y bydd risg sylweddol o ran lleihau nifer y disgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Er bod y cynigion yn enwi "ysgolion derbyn" sydd hefyd yn rhai cyfrwng Cymraeg, rhieni - ac nid yr awdurdod lleol - fyddai’n dewis yr ysgol mae’r disgyblion yn ei fynychu.

Unwaith i ysgol wledig Gymraeg gau yn eu hardal, bydd rhieni sy'n gweithio yn nhre Caerfyrddin yn fwy tebygol o ddewis ysgol yn y dref neu Ysgol Tre-Ioan. Gan mai dim ond 3 lle gwag sydd yn Ysgol Gymraeg Y Dderwen, mae'n debyg iawn y caiff nifer eu cofrestru, er cyfleustra, mewn ysgolion pennaf Saesneg eu cyfrwng. Os dadl y swyddogion yw y bydd yr ysgolion eraill hyn ar lwybr tuag at addysg Gymraeg, dylid aros nes cyflawni hynny cyn cynnig cau'r ysgolion gwledig. 

Mewn llythyr at y Pwyllgor Craffu Addysg, dywedodd Ffred Ffransis ar ran Sir Gaerfyrddin Cymdeithas yr Iaith:

"O ran proses, yr ydym yn cydnabod ac yn diolch i'r swyddogion eu bod wedi cynnal trafodaethau anffurfiol am opsiynau eraill gyda llywodraethwyr fis Mawrth eleni, ac wedi cynnwys nifer o opsiynau creadigol ymhlith y posibiliadau. Gwaetha'r modd, yr un rhesymau biwrocrataidd a roddir yn y diwedd dros wrthod pob opsiwn amgen, sy'n codi'r cwestiwn  'Beth oedd pwynt codi'r opsiynau yn y lle cyntaf'?! Ar ben hynny, ni ystyriwyd nifer o opsiynau arwyddocaol a allai fod wedi mynd i’r afael â’r poblemau biwrocrataidd eu hunain. Er enghraifft, ni ystyriwyd helpu cymunedau i ffurfio ymddiriedolaeth gymunedol i gymryd drosodd adeiladau'r ysgolion, ac a fyddent wedyn yn agored i dderbyn cyllid cyfalaf o ffynonellau eraill, fel rhaglenni datblygu cymunedol neu gronfeydd loteri. Trwy’r dull hwn, byddai'r Awdurdod yn rhyddhau ei hun o’r gyfrifoldeb o gynnal adeiladau, ac yn lleihau llefydd gwag trwy rentu’r gofod oedd ei angen arno i drefnu ysgolion yn yr un adeiladau.

"Pwysleisiwn fod gyda chi benderfyniad difrifol i'w wneud fory. Ni all y Cabinet gynnal ymgynghoriad er mwyn gweld yr ymateb yn unig, heb ddod i benderfyniad ymlaen llaw. Mae'r swyddogion yn gywir iawn yn eich atgoffa - "Rhaid i Gabinet Cyngor Sir Caerfyrddin (yn ôl y gyfraith) fod yn fodlon mai gweithredu'r opsiwn a ffefrir o gau'r ysgolion hyn yw'r ymateb mwyaf priodol i fynd i'r afael â'r heriau allweddol a nodwyd fel y rheswm dros gynnig cau y ysgolion hyn. Dim ond ar ôl ystyried yn ofalus iawn y dylid argymell ymgynghori ar yr opsiwn hwn, ar ôl ystyried yr holl ddewisiadau amgen rhesymol eraill a chynnal asesiad clir o'u rhinweddau a'u hyfywedd. Felly os oes unrhyw amheuaeth gyda chi nad hwn yw’r llwybr gorau, gofynnwn i chi nodi’n unig y camau y bwriedir, a danfon eich amheuon at y Cabinet."

Pob newyddion