Hawl i'r Gymraeg
Cartref > Cyhoeddiadau > Hawl i'r Gymraeg
Dogfennau Polisi
Ymatebion i Ymgynghoriadau
Ysgrifennwn yn bennaf mewn ymateb i ymgynghoriad ‘Adolygiad o’r Rheolau a’r Canllawiau ar ddefnyddio Adnoddau’r Senedd’, ond rydym am achub ar y cyfle yn fwy cyffredinol hefyd wrth ohebu i leisio pryderon ynghylch yr hyn sy’n ymddangos fel diffyg paratoadau er lles y Gymraeg yn y Senedd ddiwygiedig.
Ers y cyfnod craffu a phasio’r ddeddfwriaeth diwygio seneddol, mae’n ein pryderu bod pethau i’w gweld yn symud i’r cyfeiriad anghywir. Prin yw’r arwyddion o unrhyw fath o gynllunio ystyrlon o’r math sy’n angenrheidiol os am wireddu’r gweddnewidiad llwyr sydd ei angen yn safle’r Gymraeg yn y sefydliad.
Llwythwch yr ymateb llawn i lawr
Yn gyffredinol mae’r Polisi Gorfodi arfaethedig yn cyflwyno nifer o newidiadau gweithdrefnol a sylweddol fyddai yn cyfyngu ar waith rheoleiddio’r Comisiynydd i achosion a fyddai’n cael eu hystyried “o fudd i’r cyhoedd” ac yn ffafrio datrysiadau mewnol dros ymchwiliadau statudol, agored.
Rhoddir pwyslais yn y cynigion arfaethedig ar “ddefnydd gorau adnoddau’r” Comisiynydd, yn hytrach nag ar fuddiannau dinesydd cyffredin sydd â’u hawliau dynol i allu gweld, clywed a defnyddio’r Gymraeg yng Nghymru wedi’u amharu arnynt.
Rydym ni’n argyhoeddedig y byddai hyn yn creu rhwystrau ychwanegol i unigolion sy’n ceisio cyflwyno cwynion yn uniongyrchol i’r Comisiynydd. Byddai hynny yn lleihau hygyrchedd y drefn gwyno, yn gwneud y Comisiynydd yn llai ymatebol i brofiadau bob dydd defnyddwyr y Gymraeg ac yn cyfyngu ar yr ystod a’r nifer o bobl a fyddai’n cwyno, a fyddai er budd sefydliadau.
Os gweithredir y newidiadau sy’n cael eu cynnig, byddant yn debygol o arwain at gynnal llai fyth o ymchwiliadau statudol mewn achosion o fethiant i gydymffurfio, a mwy o gyfaddawdu rhwng y Comisiynydd a’r sefydliadau sy’n methu, gan atgyfodi trefn Bwrdd a Deddf Iaith 1993, a brofodd yn gwbl aneffeithiol i warantu hawliau i’r Gymraeg ac a ddiddymwyd am y rheswm hwnnw.
Byddai symudiad o’r fath hefyd yn dileu realiti ceisio byw bywyd cyflawn yn Gymraeg yng Nghymru, a’r rhwystrau sy’n bodoli o hyd rhag gallu gwneud hynny, gan na fydd cofnodi tryloyw ac agored o’r profiad hwnnw i’r un graddau. Fyddai hyn ddim yn cael ei dderbyn yn yr un maes arall o ran hawliau dinasyddion yng Nghymru heddiw - a ni ddylai ychwaith - felly mae’n anodd gweld pam y byddai yn addas yn achos y Gymraeg.
CRYNODEB O BRIF ALWADAU
Galwn arnoch fel Comisiynydd yn gyffredinol i:
-
Ail-afael yn eich swyddogaeth graidd fel rheoleiddiwr annibynnol dros y Gymraeg ac eiriolwr dros hawliau siaradwyr Cymraeg
-
Rhoi’r gorau i hwyluso gweithredu trwy’r drws cefn gynlluniau Llywodraeth Cymru (2017-2019) i wanhau cyfundrefn rheoleiddio’r Gymraeg a throi’r Comisiynydd yn gorff hyrwyddo’r Gymraeg yn bennaf, yn groes i Fesur y Gymraeg 2011.Mae angen i swyddfa'r Comisiynydd allu gweithredu swyddogaeth graidd y Mesur, a chryfhau’r swyddogaeth arbenigol, annibynnol yn craffu a chynghori er lles y Gymraeg, gwaith y bydd galw cynyddol amdano os daw Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) i fod, os am weddnewid sefyllfa’r Gymraeg ym maes cynllunio gwlad a thref ac os am ddal traed y Llywodraeth i’r tân i gyrraedd y Miliwn o Siaradwyr. Rhagwelwn bod angen Unedau arbenigol i weithio ym maes Addysg Gymraeg, Cynllunio a Gwireddu’r taflwybr tuag at darged 2050.
-
Ymrwymo i adael swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd ar y cyfle cynharaf ac i edrych am leoliad mwy addas yn y brifddinas, er mwyn ailgyflwyno rhyw argraff, o leiaf, o hygrededd ac annibyniaeth i waith y corff
Galwn arnoch i ailwampio Cynllun Strategol 2025-2030:
-
Fel bod hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn ganolog i’r amcanion, a bod ymrwymiad i ddefnyddio grym y gyfraith yn llawn mewn ffordd fesuradwy (ymrwymiadau CAMPUS) i symud pethau ymlaen
-
Fel bod ymrwymiad pendant a mesuradwy mewn perthynas â’r Gymraeg yn y gweithle i greu nifer penodol o weithleoedd sy’n gweinyddu yn bennaf neu’n llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg - ar lafar ac yn ysgrifenedig - erbyn diwedd oes y Cynllun yn 2030, gan wneud polisi llwyddiannus cyrff fel Cyngor Gwynedd a’r Llyfrgell Genedlaethol yn norm
-
Fel bod ymrwymiad yn y sector iechyd a gofal i geisio gwireddu erbyn 2030 fodolaeth hawl absoliwt i bobl Cymru i dderbyn gofal clinigol, arbenigol (e.e. iechyd meddwl a seiciatryddol) a chymdeithasol yn llwyr yn Gymraeg, ac i bwyso ar y Llywodraeth i osod Safonau Iaith ar ddarparwyr gofal sylfaenol fel bod modd gweld e.e. meddyg teulu, deintydd a fferyllydd yn Gymraeg, gan amlygu’r sefyllfa warthus bresennol eu bod wedi’u hepgor.
-
I roi’r gorau i wastraffu adnoddau ac arian y Gymraeg yn annog cyrff ariannog fel banciau ac archfarchnadoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac i ddefnyddio’r adnoddau yn hytrach i
(i) cynnal ymgyrch gyhoeddus i gywilyddio Llywodraeth Cymru am ei methiant i ddefnyddio ei grymoedd i gyflwyno Safonau Iaith ar gorfforaethau mawrion fel cwmnïau ynni a nwy sy’n gwneud ffortiwn ar gefn pobl Cymru bob blwyddyn; a
(ii) dechrau ymchwiliad safonau i gwmnïau telathrebu, a phwyso ar Lywodraeth Cymru am yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg gydag archfarchnadoedd, banciau, meysydd parcio preifat a’r sector breifat yn ei chyfanrwydd.
(iii) adeiladu a gweithredu cronfa ar gyfer cychwyn ac ymuno mewn achosion llys er lles y Gymraeg, a fyddai ar agor i gymunedau wneud cais, ac a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i statws yr iaith a gallu unigolion i’w defnyddio -
I gynnwys ymrwymiad i roi arweiniad cyhoeddus am y gwaith o gwblhau cyflwyno rheoliadau safonau i’r holl sefydliadau mae modd gwneud hynny o dan atodlenni’r Mesur ar hyn o bryd: cyrff o bwys ac y mae pobl Cymru yn dod i gyswllt â nhw yn rheolaidd megis Swyddfa Post Cyf, y system fudd-daliadau, cyrff y Goron ayb.
-
I ail-gyflwyno dangosyddion am nifer a chanran yr ymchwiliadau statudol sy’n cael eu hagor yn dilyn derbyn cwynion dilys o dan adran 93 Mesur y Gymraeg yn flynyddol, a'r nifer gaiff eu terfynu, fel cyfanswm o'r holl gwynion a dderbynnir
-
I gynnwys ymrwymiad i ddefnyddio pwerau’r Comisiynydd i ddechrau ac i ymyrryd yn rheolaidd ac yn strategol mewn achosion cyfreithiol, gan adrodd ar nifer yr achosion fel dangosydd yn flynyddol.
-
I wneud defnydd o bwerau’r Comisiynydd i gynnal ymholiadau statudol, fel a wnaed gyda Fy Iaith, Fy Iechyd.
Rydyn ni’n cytuno â’r cynigion hyn ac yn gobeithio y byddant, drwy eu safonau llunio polisi, yn cael effaith gadarnhaol ar ddarpariaeth Cymraeg gwasanaethau eraill (e.e. drwy gynllunio a
datblygu’r gweithlu a phrif-ffrydio’r Gymraeg o fewn systemau digidol yn y cyrff iechyd) a thrwy eu safonau gweithredu yn darparu mwy o gyfle i staff y cyrff hyn ddefnyddio’r Gymraeg yn y
gweithle.
Ond rydyn ni’n gresynu ei bod wedi cymryd cymaint o amser i ddechrau’r broses o ddod â chyn lleied o gyrff o dan Safonau’r Gymraeg. Gresynwn hefyd fod yna gyrff a chategorïau o berson
(ee. Cyflenwyr nwy, trydan, gwasanaethau post, gwasanaethau rheilffyrdd, a gwasanaethau telathrebu) sy’n bwysig iawn o ran gallu’r cyhoedd yn gyffredinol i ddefnyddio’r Gymraeg mewn
bywyd pob dydd heb ddod o dan y Safonau eto.
Llwythwch yr ymateb i lawr
Fe wnaeth Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Cymru gynnal arolwg o gynigion cychwynnol ar gyfer etholaethau Cymru yn 2026.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru ers dros 60 mlynedd.
Er bod y Safonau drafft newydd wedi eu newid rywfaint yn unol â sylwadau i’r ymgynghoriad ar y Safonau blaenorol, mae sawl peth a godwyd gennym yn ystod yr ymgynghoriad blaenorol sydd heb eu cynnwys, sy’n golygu na fydd pobl Cymru yn cael y gwasanaethau Cymraeg y dylent ei gael.
Mae’n bwysig nodi hefyd, wrth osod Safonau ar gyrff, bod angen pwysleisio a bod yn glir mai isafswm yw’r Safonau, nid uchafswm i anelu i’w gyflawni. Ar hyn o bryd, mae nifer o gyrff yn trin y Safonau fel rhywbeth i gyrraedd atynt, heb fynd dim pellach. Mae gwir angen newid y meddylfryd hwnnw.
1. Cyflwyniad
1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.
1.2. O edrych ar y Bil, mae tri mater sy’n effeithio ar y Gymraeg mae Comisiynydd y Gymraeg wedi tynnu sylw atynt, ond nid yw’n ymddangos eu bod yn cael eu hadlewyrchu yn y Bil arfaethedig.
2. Sylwadau ar ddarpariaethau’r Bil
Gwella Gwasanaethau Etholiadol yn Gymraeg
2.1. Mae nifer o’r materion etholiadol yn weithgareddau a wneir gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol a/neu Swyddogion Canlyniadau. Fodd bynnag, ac yn wahanol i gynghorau sir, nid ydynt yn ddarostyngedig i ddyletswyddau ieithyddol statudol. Mae hynny’n fan gwan anfwriadol sydd wedi arwain at broblemau megis cyhoeddiadau etholiadol sy’n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau1 gan dynnu sylw at y problemau hyn yn y blynyddoedd diwethaf. Dywedodd:
‘Ni ellir datgan eto bod profiad siaradwyr Cymraeg yn gyfartal â phrofiad siaradwr di-Gymraeg gan fod rhaid i’r unigolyn sydd yn dymuno derbyn gwybodaeth a ffurflenni trwy gyfrwng y Gymraeg, yn aml fynd gam ymhellach a gwneud mwy o ymdrech na phe bai’n cyrchu’r wybodaeth trwy gyfrwng y Saesneg.’
2.2. Nid yw’n ymddangos bod y Bil arfaethedig yn ymateb i bryderon nag argymhellion y Comisiynydd.
2.3. Argymhellwn felly y dylid ychwanegu cymal i’r Bil hwn sy’n gwneud Swyddogion Cofrestru Etholiadol a/neu Swyddogion Canlyniadau yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg. Fel arall, dylai fod darpariaeth benodol sy’n sicrhau bod prif egwyddorion a darpariaethau Mesur y Gymraeg 2011 yn gymwys i’r swyddogion hyn, gan gynnwys peidio â chaniatáu i’r Gymraeg gael ei drin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau etholiadol.
Gwasanaethau Cymraeg Cynghorau Cymuned
2.4. Nid yw cynghorau cymuned yn ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg, yn lle, mae amrywiaeth o bolisïau a chynlluniau sy’n seiliedig ar ddeddfwriaeth sydd wedi dyddio, sef Deddf Iaith 1993. O ganlyniad, mae cynlluniau a pholisïau iaith nifer fawr o gynghorau cymuned yn anfoddhaol, anghyson a gwan. Mewn rhai achosion mae diffygion yr hen ddeddfwriaeth o ran gwarchod statws y Gymraeg wedi bygwth defnydd mewnol cynghorau o’r iaith.
2.5. Argymhellwn felly y dylai fod darpariaeth yn y Bil i hwyluso’r broses o osod Safonau’r Gymraeg ar gynghorau cymuned fel bod eu polisïau yn adlewyrchu darpariaethau ac egwyddorion Mesur y Gymraeg 2011. Fel arall, dylai fod darpariaeth i gymhwyso prif egwyddorion a darpariaethau Mesur y Gymraeg 2011 i gynghorau cymuned.
Treuliau Etholiadol Ymgeiswyr
2.6. Mae ymgeiswyr etholiadol wedi datgan bod y rheolau presennol ynghylch terfynau gwariant pleidiau gwleidyddol wedi rhwystro defnydd o’r Gymraeg mewn etholiadau blaenorol oherwydd bod costau cyfieithu yn cyfrif at wariant.
2.7. Argymhellwn felly dylid eithrio costau cyfieithu o derfynau gwariant pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr er mwyn hwyluso mwy o ddefnydd o’r Gymraeg ar ddeunydd etholiadol ymgeiswyr a phleidiau.
Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith
Ionawr 2020