O Lundain i Farddoni
Cartref > Digwyddiadau > Archif > O Lundain i Farddoni
7.00-8.00, nos Fawrth, 9 Rhagfyr – digwyddiad arlein
Rydym yn ail-gychwyn ein sesiynau arlein i ddysgwyr ym mis Rhagfyr trwy gynnal sgwrs gyda Jo Heyde am ei thaith tuag at ddysgu Cymraeg. Dechreuodd Jo barddoni yn ystod y daith honno ac mae hi bellach wedi cyhoeddi cyfrol o'i barddoniaeth ac mae hi wedi golygu blodeugerdd o gerddi am y Nadolig sydd newydd ei chyhoeddi.
Dewch felly i wrando ar Jo yn dweud ei hanes – cewch eich ysbrydoli mae'n siwr!
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad ac i dderbyn dolen ebostiwch post@cymdeithas.cymru.