Cyfarfod Grwp Hawl i'r Gymraeg

Cartref > Digwyddiadau > Cyfarfod Grwp Hawl i'r Gymraeg

Cyfarfod o'r Grŵp Hawl i'r Gymraeg

7.00, nos Fawrth, 10 Chwefror

Cyfarfod dros Zoom

Y Grŵp Hawl yw'r grŵp sy'n ymgyrchu dros hawliau pobl i fyw eu bywydau drwy'r Gymraeg a dros lawer mwy o ddefnydd o'r iaith mewn sefydliadau, cwmnïau a mudiadau.

Ymysg y materion fydd yn cael eu trafod yn y cyfarfod hwn y mae: ymgyrchu hyd at etholiad Senedd Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, cwynion, defnydd pleidiau gwleidyddol o'r Gymraeg a mwy!

Mae croeso i unrhyw aelod o'r Gymdeithas fod yn rhan o'r grŵp hwn.

Cysylltwch felly am fwy o wybodaeth neu ddolen i ymuno. Os nad ydych chi'n siwr, beth am ddod i un neu ddau o gyfarfodydd i weld beth yw beth!

Pob digwyddiad