Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas

Cartref > Digwyddiadau > Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas

Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas

10.00, dydd Sadwrn, 11 Ebrill 2026

Caerdydd - lleoliad i'w gadarnhau (gyda chyfle i ymuno arlein)

Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn, ond mae gan bob aelod o'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio).

Mae'r Senedd yn cyfarfod yn fisol, ac yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o waith y Gymdeithas bob tro ymgyrchoedd, materion rhanbarthol ac ochr weinyddol gwaith y Gymdeithas (sy'n cynnwys cyfathrebu, codi arian, dysgwyr, materion rhyngwladol, ac ati). Senedd Ymgyrchoedd fydd ym mis Ebrill.

Byddai'n braf gweld cymaint o aelodau â phosib yno. Cysylltwch os am fynychu neu os am wybodaeth bellach.

Noder hefyd:

  • Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd, a byddwn yn cynorthwyo gyda threfniant gofal plant.
  • Mae swyddogion cyflogedig (neu wirfoddol) y Gymdeithas yn gallu cynnig lifftiau o nifer o leoedd yn y wlad. Byddwn yn talu costau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi rannu lifft gyda swyddogion eraill.
  • Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall.
  • Mae croeso i unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith ddod i gyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt, ond dim ond swyddogion etholedig a chyflogedig sydd â'r hawl i bleidleisio.
  • Mae rhagor o fanylion am y Senedd yma.

Pob digwyddiad