Dyfodol y Coleg Cymraeg

Prif Swyddfa'r Coleg Cymraeg yng Nghaerfyrddin

Mynnwn fod Llywodraeth newydd Cymru yn datblygu'r Coleg Cymraeg

Dewch i ymuno ag Adam Price, cyn Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, a Miriam Williams, cyn Llywydd UMCA ac is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith i alw am ddatblygu’r Coleg Cymraeg tu allan i brif swyddfa’r Coleg yng Nghaerfyrddin

Bydd liffts o Aberystwyth, Llandysul, Porthmadog a Chaerdydd a phosibl stopio rhwng y llefydd yna. Cysylltwch am ragor o wybodaeth: bethan@cymdeithas.cymru / 01970 624501