
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno wrth Gynghorwyr Sir Gâr fod swyddogion i'w gweld yn anwybyddu cyfarwyddyd i ddefnyddio'r 4 mis nesaf i drafod gyda chymunedau lleol ddyfodol eu hysgolion lleol. Penderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin ar Fawrth 1af i estyn cyfnod ymgynghoriad ar gynigion i gau Ysgolion Mynydd-y-Garreg a Blaenau tan ddiwedd tymor yr haf mewn ymateb i ganllawiau diwygiedig y Gweinidog Addysg am gynnal ymgynghoriadau mewn pandemig.