Cynlluniau i gynyddu addysg Gymraeg “i fethu” heb dargedau cadarn

Mae pryder gyda ni y bydd cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer tyfu addysg Gymraeg yn methu heb dargedau cadarn fydd yn clymu llywodraethau’r dyfodol yn gyfreithiol i gyflawni ei nodau.

Nod Bil y Gymraeg ac Addysg, a fydd yn cael ei drafod ar lawr y Senedd fis nesaf, yw sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cael addysg Gymraeg dros amser. Ond mae’r mudiad iaith wedi rhybuddio y bydd y twf “truenus o araf” a welwyd dros y degawdau diwethaf yn parhau heb fod targedau statudol ar gyfer canran y plant sy’n cael addysg Gymraeg erbyn 2050 ar wyneb y Bil ei hunan.

Dros yr ugain mlynedd diwethaf, dim ond cynnydd bach iawn, o 19% i 22%, sydd wedi bod yng nghanran y plant cynradd sy’n mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg, a does bron dim cynnydd o gwbl wedi bod yn y sector uwchradd.

Rydyn ni'n galw am gynnwys targed ar lun y targedau sydd ar wyneb Deddf Newid Hinsawdd 2008 Llywodraeth Prydain, sy’n gosod cyfrifoldeb cyfreithiol ar y llywodraeth i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o 100% o’u cymharu â lefelau 1990 erbyn 2050.

Meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Gan i ni fod yn ymgyrchu am ddeddf addysg Gymraeg i bawb ers dros ddegawd, rydyn ni’n falch bod ein Llywodraeth a’n Senedd yn deddfu yn y maes, ond ar hyn o bryd mae gyda ni bryder mawr y bydd y cynlluniau’n methu am nad oes targedau clir, cadarn yn y ddeddfwriaeth ei hunan. Heb dargedau, beth fydd yn gyrru’r Bil? Beth fydd yn atal y system addysg Gymraeg rhag parhau fel ag y mae ar hyn o bryd, yn system i leiafrif bach?
“Mae targedau anstatudol i gynyddu nifer y plant sy’n cael addysg Gymraeg yn cael eu methu dro ar ôl tro, felly mae’n amlwg bod angen targedau yn y Bil ei hunan fel na fydd 80% o’n plant yn dal i adael yr ysgol heb allu siarad yr iaith yn hyderus. Y perygl yw y bydd mwyafrif ein plant yn dal i gael eu hamddifadu o’r Gymraeg os nad oes targedau’n cael eu cynnwys yn y Ddeddf i symud pethau ymlaen.”

Bydd Bil y Gymraeg ac Addysg yn cael ei drafod ar lawr y Senedd ar 6 Mai a bydd cyfle gan bob plaid i gyflwyno gwelliannau iddo bryd hynny.

Ychwanegodd Toni Schiavone:
“Os yw’r Llywodraeth o ddifrif eisiau gweddnewid ein system addysg a rhoi’r Gymraeg i bob plentyn, mae’n rhaid cynnwys targedau yn y Bil ei hunan er mwyn clymu llywodraethau’r dyfodol yn gyfreithiol at ei nodau, a sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu neilltuo tuag at gyflawni hynny.”