Celloedd Cymdeithas yr Iaith a sut i'w sefydlu
Beth yw cell?
Grŵp o aelodau sy’n dod at ei gilydd yn gyson i drefnu gweithgaredd o fewn eu cymuned/ardal/ysgol/coleg.
Ble mae celloedd yn cyfarfod?
Mae hyn yn dibynnu ar y sefyllfa. Weithiau cewch ganiatâd i gynnal gweithgareddau mewn ysgol/coleg. Fel arall, bydd angen dod o hyd i rywle arall fel caffi, cefn tafarn neu dŷ rhywun.
Pwy sy’n mynd i gelloedd?
Mae croeso i unrhyw un ddod i gell boed hynny allan o ddiddordeb neu awydd i fod yn fwy gweithredol yn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith. Mae’n gyfle i gyfarfod pobl newydd, trafod pynciau llosg ac estyn cymorth gydag amryw bethau fel ysgrifennu llythyron, trefnu gigs, ralïau ac efallai gweithred. Gallwch gyfrannu mewn pob math o ffyrdd eraill hefyd – dylunio posteri, cyfieithu, cynnig cyngor cyfreithiol neu efallai bod gennych arbenigedd neu ddiddordeb mewn maes arbennig.
Beth ydyn ni fod i wneud mewn cell?
Ar y cyfan cewch ganolbwyntio ar beth bynnag sy'n apelio atoch, a beth sy’n berthnasol i’ch ardal. Wrth gwrs, rhaid ystyried ymgyrchoedd canolog y Gymdeithas hefyd a bod yn rhan ohonynt neu eu haddasu i’ch ardal chi.
Dyma rai enghreifftiau:
- os oes stad o dai newydd di-angen wedi ei chodi neu ar fin ei chodi yn eich ardal, gallwch ysgrifennu at y cyngor lleol yn gwrthwynebu hyn, cynnal protest lleol neu weithredu’n uniongyrchol trwy beintio slogan
- os oes banc neu siop neu fusnes sy'n gwrthod defnyddio’r Gymraeg, gallwch ysgrifennu atynt neu dynnu sylw at y mater trwy ysgrifennu at bapur lleol
- gallwch ddechrau cylchgrawn neu flog i’w rannu ymysg myfyrwyr ysgol, yn cynnwys erthyglau, cartwns, adolygiadau o gigs/cerddoriaeth/llyfrau
- gallwch drefnu gigs i godi arian a hybu ein bandiau Cymraeg.
Ond sut ydw i’n sefydlu cell?
Cysylltwch â'r Brif Swyddfa yn gyntaf i weld a oes cell yn bodoli yn eich ardal. Gallwn ni roi manylion cyswllt Cadeirydd y Rhanbarth a ddylai fod yn gallu eich helpu.
P { margin-bottom: 0.21cm; }A:link { }