Angen gweithredu brys neu “dim addysg Gymraeg i bawb tan y flwyddyn 2424"

Dim ond 0.2% o gynnydd sydd wedi bod yng nghanran y plant sydd mewn addysg Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigurau newydd sydd wedi’u rhyddhau gan Ystadegau Cymru. Roedd 20% yn cael adddysg Gymraeg ym mlwyddyn academaidd 2023/24, a 20.2% yn y flwyddyn 2024/25.

Mae hyn yn brawf bod angen gwneud llawer mwy er mwyn rhoi’r Gymraeg i bob plentyn drwy’r system addysg ac er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn ôl Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’r ffigurau siomedig yma’n dangos swmp a sylwedd methiant Llywodraeth Cymru i normaleiddio’r Gymraeg yn ein system addysg dros gyfnod o ddegawdau.

“Ar hyn o bryd, dim ond 20.2% o blant Cymru sy’n cael addysg Gymraeg – ffigur sydd heb newid rhyw lawer ers ugain mlynedd. Golyga hyn bod rhan helaeth o’n plant a’n pobl ifanc yn parhau i gael eu cau allan o’u hawl i ddysgu eu hiaith cenedlaethol, a’r holl fuddion diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd sy’n dod yn sgil hynny.”

Yn ystod un o’r trafodaethau olaf ar Fil y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru yn y Senedd ym mis Mai, fe wnaeth Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, addewid i ymgynghori ar darged i sicrhau y bydd 50% o blant mewn addysg Gymraeg erbyn y flwyddyn 2050.

Os yw’r cyfradd twf presennol yn parhau, na fyddai’r targed hwnnw yn cael ei gyrraedd tan y flwyddyn 2174, ac na fyddai’r nod o addysg Gymraeg i bawb yn cael ei gyrraedd tan y flwyddyn 2424.

Ychwanegodd Toni Schiavone:

“Mae pasio deddfwriaeth yn un peth, ond os ydyn ni wir am roi’r Gymraeg i bob plentyn mae’n rhaid gweld buddsoddi a chynllunio sylweddol yn ein system a’n gweithlu addysg. Yn anffodus, does dim arwydd o hynny’n digwydd ar hyn o bryd.”

Mae'r ystadegau i'w gweld ar wefan Stats Cymru