Gweithredu dros Balesteina

Mae diffyg gweithredu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i atal yr hil-laddiad sy’n digwydd i bobl Palesteina yn Gaza, a’r ffaith bod y Llywodraeth bellach yn tawelu’r lleisiau sy’n tynnu sylw at y gormes, yn ddatganiad clir o’i safiad – ac mae’n ddyletswydd arnon ni i ymateb.

Rydyn ni'n sefyll mewn undod ag unigolion a mudiadau sy’n gweithredu’n uniongyrchol i dynnu sylw at ran y Deyrnas Unedig mewn troseddau sy’n cael eu cyflawni yn erbyn pobl Palesteina, a’r camddefnydd cynyddol o gyfreithiau gwrthderfysgaeth i dawelu protestwyr sy’n tynnu sylw at hynny.

Yn ôl Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith:
“Yn hytrach na gweithredu i atal y gyflafan yn Gaza mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi parhau i werthu arfau i Israel. Does dim ymdrech wedi bod i bwyso ar Lywodraeth Israel i roi diwedd ar ei gwarchae ar gymorth dyngarol rhyngwladol nac am gadoediad a heddwch ar draws Palesteina ac Israel. Nid yn unig hynny, ond mae’r Llywodraeth yn mynnu tawelu lleisiau’r rhai sy’n fodlon codi eu llais, yn heddychlon ac yn ddemocrataidd, yn erbyn y gyflafan honno. 
“Mae hynny’n ymosodiad ar yr hawl i weithredu’n uniongyrchol dros gyfiawnder a rhyddid, sy’n egwyddor sylfaenol i ni fel mudiad, o ystyried y rôl hanfodol mae protest a gwrthwynebiad yn ei chwarae yn hanes cymdeithasol Cymru a’r byd. Rhaid i Gymru barhau i fod yn wlad lle gall pobl sefyll dros gyfiawnder yn rhydd, a bydd Cymdeithas yr Iaith wastad yn sefyll gyda’r rhai sy’n dewis gweithredu, yn ddewr ac yn heddychlon.”

Byddwn ni'n wedi galw ar bobl o bob rhan o Gymru i sefyll mewn undod gyda phobl sy’n defnyddio protest heddychlon i wrthwynebu hil-laddiad ac erledigaeth trwy ymuno â digwyddiad Y Llinell Goch, i alw am gadoediad rhwng Israel a Phalesteina yn Aberystwyth ar 26 o Orffennaf.

Ychwanegodd Joseff Gnagbo:
“Byddwn ni’n gweithredu dros Balesteina drwy ymuno â digwyddiad Y Llinell Goch yn Aberystwyth. Mae gyda ni bryder mawr am yr ymosodiad cynyddol ar yr hawl i brotestio’n heddychlon ac i weithredu’n uniongyrchol dros gyfiawnder rhyngwladol. Galwn ar bobl o bob rhan o Gymru i ddod at ei gilydd i sefyll mewn undod ag ymgyrchwyr eraill a chefnogi digwyddiad Y Llinell Goch gan fudiadau sy’n cefnogi Palesteina.”