Beth yw Cymdeithas yr Iaith?

Cymdeithas o bobl sy'n gweithredu'n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.

Ydych chi erioed wedi profi anhawster wrth geisio cael gwasanaeth Gymraeg?

Cael eich trin yn amharchus wrth drio siarad Cymraeg?

Cael trafferth cael addysg Gymraeg i chi neu’ch plant?

Cymdeithas o bobl yw Cymdeithas yr Iaith sydd eisiau sicrhau cyfle cyfartal i’r iaith Gymraeg ac sy’n ymgyrchu’n bositif am hawliau i bobl Cymru i ddefnyddio’r iaith.

Yn 1962, dywedodd Saunders Lewis fod angen chwyldro er mwyn achub yr iaith Gymraeg. Am dros hanner canrif mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod ar flaen y gad yn arwain y chwyldro hwnnw.

1960au – Arwyddion Ffyrdd

1970/80au – Sianel Deledu Cymraeg

1990au – Deddf Iaith 1993

2000au – Ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd

2010 – Statws Swyddogol i'r Gymraeg drwy Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011

2011 – Sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ac rydyn ni dal wrthi! Mae gan y mudiad syniadau blaengar ar nifer o feysydd sy’n effeithio ar y Gymraeg, megis hawliau ieithyddol, addysg, tai a chynllunio, a'r cyfryngau.

Ond mae’r Gymraeg yn ddiogel erbyn hyn?

Mae'n wir bod sefyllfa’r iaith wedi cryfhau dros y blynyddoedd mewn rhai meysydd, ond mae cymaint o ffactorau fel effaith globaleiddio, toriadau mewn gwariant a dirywiad cymunedau Cymraeg yn bygwth yr iaith. Mae’r bygythiadau diweddar i S4C a diffyg ein hawdurdodau lleol i weithredu trwy’r Gymraeg yn brawf o’r angen i barhau i frwydro ac amddiffyn yr iaith a’n cenedligrwydd. Er mwyn iddi fod yn iaith fyw rhaid i ni ei defnyddio ym mhob rhan o’n bywydau; yn iaith naturiol yn ein cymunedau, ar y we, yn y siop, yn gyfrwng i’n haddysg, radio a theledu.

Ond dydw i ddim yn un i brotestio...

Wrth gwrs eich bod chi! Nid protestio ar y strydoedd a wnawn ni drwy’r amser. Hanfod y Gymdeithas yw gweithredu yn ôl y dull di-drais; gall hyn fod yn unrhyw beth o ysgrifennu llythyr am ddiffyg gwasanaeth Gymraeg neu gasglu llofnodion ar ddeiseb hyd at brotestio neu hyd yn oed baentio sloganau. Does neb o fewn y Gymdeithas yn cael ei gorfodi i wneud unrhyw beth a roddir y pwyslais ar annog a chynorthwyo ein haelodau i gyfrannu a datblygu eu sgiliau neilltuol. Mae lobïo busnesau, cynghorau sir a gwleidyddion yn rhywbeth sy’n digwydd drwy’r flwyddyn ac mae angen help ein haelodau i wneud hyn. Mae angen pobl sy'n gallu ysgrifennu, darlunio, cyfathrebu, creu pethau, pobl gydag arbenigedd mewn addysg, cyfraith, adloniant, cyfrifiaduron, yn wir, beth bynnag eich talentau, mae yna le i chi helpu gyda gwaith y Gymdeithas.

Beth alla i wneud?

Ymaelodwch! Gallwch wneud hyn ar y wefan hon. Cofiwch roi gwybod pa ymgyrchoedd sydd o ddiddordeb i chi. Ymunwch â chell (sef cangen leol o’r Gymdeithas). Mae yna gelloedd dros Gymru gyfan a gallwch chi ddechrau cell yn eich ardal chi yn ddigon hawdd. Nid oes angen llawer o bobl i ddechrau cell a gall y Swyddog Maes lleol eich helpu. Cofiwch, cymdeithas o bobl yw'r Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, hynny yw, CHI! Mae’ch  cyfraniad yn holl bwysig a gyda’n gilydd rydym yn arwain y frwydr dros sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg

Hawliau Ieithyddol

Yn sgil Mesur yr Iaith Gymraeg 2011 mae’r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Ond gyda statws swyddogol mae angen  hawliau ieithyddol i’r unigolyn. Nid oes unrhyw orfodaeth ar gwmnïau megis Tesco a McDonalds i ddarparu unrhyw fath o wasanaeth Gymraeg, a gwasanaethau eilradd fydd gydan ni nes bod deddf yn mynnu fod hyn yn newid. Byddwn felly yn parhau i frwydro dros Ddeddf Iaith gref sydd yn cynnwys hawliau i’r unigolyn.

Addysg

Dylai fod gan bawb yr hawl i dderbyn addysg Gymraeg yn lleol. Mae Cymdeithas yr Iaith yn ymgyrchu dros:

·     ddyfodol ysgolion pentrefol

·     gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn colegau addysg bellach

·     addysg gyfrwng Gymraeg lleol o’r blynyddoedd cynnar hyd at ysgol uwchradd.

Cymunedau Cynaliadwy

Mae'r Gymraeg yn edwino fel iaith gymunedol yn enwedig yn ei chadarnleoedd traddodiadol – a hynny am sawl rheswm. Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am newidiadau economaidd ac yn y farchnad dai er mwyn gwrth-droi'r dirywiad hwn. Un o'n galwadau ydy Deddf Eiddo fyddai'n galluogi pobl i aros yn eu cymunedau a sicrhau bod digon o dai fforddiadwy ar gael i'w prynu a'u rhentu, gan roi cymorth ychwanegol i brynwyr tro cyntaf.

Cyfryngau

Cred Cymdeithas yr Iaith bod y cyfryngau modern gan gynnwys teledu, radio a’r we yn holl bwysig er mwyn cael dyfodol llewyrchus i’r iaith Gymraeg. Rydym yn pwyso am wasanaeth Gymraeg ar orsafoedd radio lleol, annibyniaeth a chyllido teg i’n sianel deledu Gymraeg a phresenoldeb cryf ar y we.

Cysylltwch nawr ac ymunwch â’r chwyldro!

post@cymdeithas.cymru

Dolenni Hanes

Mae nifer o ddogfennau a ffotograffau yn archif y Gymdeithas yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Casgliad y Werin Cymru.

Ar wefan owainiwain.net ceir haner nifer o'r ymgyrchoedd a ddyfeisiwyd gan Owain Owain, 'y strategaethwr cywrain a gofalus'. Ffei i'r neb a gredodd mai haid o fyfyrwyr hirwalltog oedd y tu cefn i'r mudiad!

Hanes Cymdeithas yr Iaith ar wefan Wicipedia.

1955, 1967, 1970, Cymdeithas yr Iaith – clip Fideo o 'Tynged yr Iaith' a ddarlledwyd yn gyntaf 15 Chwefror 1987.

Lluniau a delweddauar ar flickr.com o ddyddiau cynnar brwydr yr iaith gan 'ugain_i_un'.