Dydy banc NatWest ddim yn darparu gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid, felly mae angen gosod Safonau’r Gymraeg ar fanciau o dan Fesur y Gymraeg 2011.
Rydyn ni wedi derbyn cwynion diweddar ynghylch penderfyniad NatWest i beidio darparu llyfr siec dwyieithog, penderfyniad sy’n cael ei ailystyried ar hyn o bryd. Roedd gallu ysgrifennu sieciau yn Gymraeg ac archebu llyfrau siec Cymraeg neu ddwyieithog yn gynnydd sylweddol a sicrhawyd drwy ymgyrchu gan ymgyrchwyr iaith dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.
Os bydd NatWest yn bwrw ymlaen gyda’r penderfyniad i beidio darparu llyfr siec dwyieithog, bydd disgwyl i gwsmeriaid un ai ddefnyddio llyfrau siec yn Saesneg neu ddefnyddio gwasanaethau bancio Saesneg ar-lein, sydd, yn ôl y mudiad, yn gam yn ôl i hawliau iaith.
Meddai Aled Thomas, Is-gadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’n warthus bod NatWest yn bwriadu peidio darparu llyfrau siec dwyieithog, gan orfodi cwsmeriaid i ddefnyddio gwasanaethau uniaith Saesneg yn eu lle. Mae hyn yn mynd yn groes i egwyddorion tegwch ieithyddol ac i ddisgwyliadau sylfaenol cwsmeriaid Cymraeg.
“Ar ben hynny, mae’r ffaith nad yw NatWest nac unrhyw fanc arall yn darparu gwasanaethau bancio ar-lein yn golygu bod pobl yn cael eu gorfodi yn gynyddol i ddefnyddio Saesneg wrth ymdrin â’u banc. Nid yn unig dydyn ni ddim yn gweld symud ymlaen, mae hyn nawr yn gam mawr yn ôl. NatWest yw’r banc diweddaraf i dynnu gwasanaeth Cymraeg yn ôl, wedi i HSBC ddod â’i linell ffôn Gymraeg i ben llynedd. Mae hyn yn dangos ei bod yn gwbl angenrheidiol gosod Safonau’r Gymraeg ar fanciau. Yn y cyfamser, galwn ar NatWest i ail-gyflwyno llyfrau siec dwyieithog.”