Cymunedau Cynaliadwy

Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy

Mae cymunedau a fu’n gadarnleoedd traddodiadol i’r Gymraeg wedi bod o dan warchae economaidd a chymdeithasol ers degawdau.  Mae mewnfudo, tueddiadau’r farchnad dai, a datblygiadau anaddas wedi sicrhau bod y farchnad dai yn aml allan o gyrraedd pobl leol.

Fel Cymdeithas, credwn fod cymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif gyfrwng yn holl-bwysig er mwyn sicrhau dyfodol i’r Gymraeg.  Credwn y dylid ystyried tai fel cartrefi ac nid fel adnodd economaidd, y dylid sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad at y farchnad dai, ac y dylai’r farchad dai adlewyrchu cyflogau lleol.

Galwn am Ddeddf Eiddo a fydd yn mynd i’r afael â’r problemau yma. Byddai Deddf Eiddo yn rhoi rheidrwydd ar awdurdodau lleol i:

  • asesu’r angen lleol am dai
  • sicrhau bod tai ac eiddo ar gael i bobl am rhent teg
  • roi cymorth i brynwyr tro cyntaf, ac i gynnig cynlluniau rhan-ddeiliadaeth
  • roi blaenoriaeth i bobl leol yn y farchnad dai
  • gynllunio ar gyfer y gymuned, ac ar sail barn y gymuned
  • ail-asesu caniatâd cynllunio a roddwyd yn y gorffennol.

Credwn hefyd fod angen ffurfioli’r drefn o asesu effaith datblygiadau tai ar yr iaith Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â jeff@cymdeithas.cymru

Diwallu anghenion tai pobl Cymru
Cynaladwyedd cymdeithasol ac economaidd i gymunedau Cymru trwy sicrhau cartref am bris teg
Cynaladwyedd amgylcheddol