Ddeng mis ers cyhoeddi adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ymateb i’r argymhellion ar Faes Eisteddfod yr Urdd ym Margam, ar Ddydd Iau, 29 Mai - ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi gosod her iddyn nhw.
Bydd y Gymdeithas yn marcio llwyddiant y Llywodraeth ar sail derbyn argymhellion a gweithredu arnynt yn gyflym, yn yr un ffordd ag y bydd disgyblion a myfyrwyr fydd ar y maes yn cael eu marcio ar eu llwyddiant addysgol. Yna, ceir sgôr terfynol i adlewyrchu ansawdd gwaith cartref y Llywodraeth.
Dywedodd Dr Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
“O ystyried yr argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau a’r Gymraeg, mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu’n gadarn ac yn gyflym. Rydym yn edrych ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu’r argymhellion a chyflwyno cynlluniau manwl i’w gweithredu ar 29 Mai, ac yn cymryd mai gwaith ar gynllun i weithredu’r argymhellion mae nhw wedi bod yn gwneud dros y 10 mis diwethaf.
“Os ydy Llywodraeth Cymru yn llwyddo yn hynny o beth, gan gynnwys y cam allweddol o sefydlu ardaloedd o arwyddocad ieithyddol dwysedd uwch, byddwn yn hapus iawn i roi sgôr uchel iddynt.”
Bu’r Comisiwn, a gyfansoddwyd o arbenigwyr o sawl maes a chefndir, wrthi am ddwy flynedd yn ymchwilio’n ddwfn i’r materion sy’n effeithio ar hyfywedd cymunedau lle mae dros 40% o’r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg i gynnig datrysiadau ymarferol. Yn y pen draw, cyflwynwyd 57 argymhelliad i Lywodraeth Cymru yn y prif ddogfen, gyda 14 argymhelliad pellach ym maes tai a chynllunio mewn dogfen ychwanegol.
Ychwnaegodd Dr Jeff Smith:
“Dydy diffyg gweithredu’r Llywodraeth ddim wedi cyfateb â’r argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau. O ystyried ei faint a phwysigrwydd, ni all ein cymunedau aros ragor - mae angen gweithredu nawr.”