Senedd Cymdeithas yr Iaith
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith y Gymdeithas.
Mae hawl gan unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith enwebu unrhyw aelod arall i wasanaethu fel aelod o'r Senedd.
Bob hydref, yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, etholir swyddogion a fydd yn gwasanaethu fel aelodau o'r Senedd am gyfnod o flwyddyn. Mae'r Swyddogion hyn yn gyfrifol am wahanol agweddau o waith y Gymdeithas. Caiff y Swyddogion sy'n gyfrifol am ranbarthau'r Gymdeithas eu hethol yng Nghyfarfodydd Blynyddol y rhanbarthau.
Dyddiadau cyfarfodydd 2020-21
Mae croeso i unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith ddod i gyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt, ond dim ond swyddogion etholedig a chyflogedig sydd â'r hawl i bleidleisio.
Ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i gynnal y cyfarfodydd dros Zoom (cysylltwch os am fynychu). Mae pob cyfarfod yn canolbwyntio ar agwedd wahanol o waith y Gymdeithas (ymgyrchoedd, materion gweinyddol, rhanbarthau).
5/12/20 – Senedd Ymgyrchoedd
9/1/21 – Senedd Ranbarthau
6/2/21 – Senedd Weinyddol
6/3/21 – Senedd Ymgyrchoedd
10/4/21 – Senedd Ranbarthau (gobeithir y bydd hwn yn rhan o benwythnos preswyl yn Llety Arall, Caernarfon)
8/5/21 – Senedd Weinyddol
12/6/21 – Senedd Ymgyrchoedd
3/7/21 – Senedd Ranbarthau
11/9/21 – Senedd Weinyddol
2/10/21 – Senedd Ymgyrchoedd
Aelodau'r Senedd 2020-21
Cadeirydd |
Mabli Siriol |
Cyfrifol am reoli'r Gymdeithas rhwng cyfarfodydd Senedd |
Is-gadeirydd Ymgyrchoedd |
Talulah Thomas |
Cyfrifol am sicrhau bod y Grwpiau Ymgyrchu'n weithredol |
Is-gadeirydd Cyfathrebu |
Osian Rhys |
Cyfrifol am beiriant cyfathrebu'r Gymdeithas |
Is-gadeirydd Gweinyddol |
Mai Roberts |
Cyfrifol am ein gweinyddiaeth |
Trysorydd |
Danny Grehan |
Cyfrifol am gyfrifon y Gymdeithas |
Swyddog Codi Arian |
Bethan Ruth |
Cyfrifol am strategaeth codi arian y Gymdeithas |
Swyddog Mentrau Masnachol |
Mirain Owen |
Cyfrifol am nwyddau a werthir gan y Gymdeithas |
Swyddog Adloniant |
Elan Elidyr |
Cyfrifol am gydlynu gwaith pwyllgorau adloniant yn genedlaethol |
Swyddog Aelodaeth |
Elin Hywel |
Cyfrifol am ein hymgyrchoedd aelodaeth a'n system aelodaeth |
Swyddog y We |
Eiri Angharad |
Cyfrifol am ein presenoldeb ar-lein |
Golygydd y Tafod |
Mared Llywelyn Williams |
Golygydd Cylchgrawn y Gymdeithas |
Swyddog Dylunio |
Carwyn Hedd |
Cyfrifol am drefnu gwaith dylunio'r Gymdeithas, gan gynnwys y Tafod |
Swyddog Dysgwyr |
Nia Llywelyn |
Cyfrifol am drefnu darpariaeth i bobl ddysgu'r iaith |
Swyddog Rhyngwladol |
Joseff Gnagbo |
Cyfrifol am gadw llygaid ar ddatblygiadau polisi ac ymgyrchu ieithyddol ymysg cymunedau rhyngwladol gydag ieithoedd a'u lleiafrifwyd; am wahodd ymgyrchwyr iaith i Gymru; ac am drefnu teithiau astudiaeth i aelodaeth y Gymdeithas yn rhyngwladol |
Cadeirydd Grŵp Addysg |
Toni Schiavone |
Cyfrifol am gadeirio cyfarfodydd y Grŵp Addysg a llefaru ar ei ran ac arwain ar ymgyrchoedd addysg |
Is-gadeirydd Grŵp Addysg |
GWAG |
Cyfrifol am gefnogi y Cadeirydd, dirprwyo iddo a hwyluso gwaith y grŵp |
Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy |
Elin Hywel |
Cyfrifol am gadeirio cyfarfodydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â thai, cynllunio a materion eraill sydd yn effeithio ar gymunedau Cymraeg eu hiaith |
Is-gadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy |
Jeff Smith |
Cyfrifol am gefnogi y Cadeirydd, dirprwyo iddo a hwyluso gwaith y grŵp |
Cadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol |
Elfed Wyn Jones |
Cyfrifol am gadeirio cyfarfodydd y Grŵp Dyfodol Digidol a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â materion darlledu a phresenoldeb y Gymraeg arlein a materion eraill sydd yn effeithio ar y Gymraeg yn y byd digidol |
Is-gadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol |
Leia Fee |
Cyfrifol am gefnogi y Cadeirydd, dirprwyo iddo a hwyluso gwaith y grŵp |
Cadeirydd Grŵp Hawl i'r Gymraeg |
Bethan Williams |
Cyfrifol am gadeirio cyfarfodydd y Grŵp Hawl a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â mynediad at wasanaethau yn Gymraeg a statws yr iaith |
Is-gadeirydd Grŵp Hawl i'r Gymraeg |
David Williams |
Cyfrifol am gefnogi y Cadeirydd, dirprwyo iddo a hwyluso gwaith y grŵp |
Cadeirydd yr Is-grŵp Iechyd |
Gwerfyl Roberts |
Is-grŵp o'r Grŵp Hawl i'r Gymraeg |
Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol |
Siôn Trewyn |
|
Ysgrifennydd Cyffredinol |
Carol Jenkins |
|
Swyddog Maes y Gogledd |
Gwion Emyr |
|
Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd-Môn |
Elfed Wyn Jones |
|
Cadeirydd Rhanbarth Glyndŵr |
GWAG |
|
Cadeirydd Rhanbarth Powys |
David Williams |
|
|
||
Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion |
Jeff Smith |
|
Cynrychiolydd Rhanbarth Caerfyrddin-Penfro |
Bethan Williams |
|
Cadeirydd Rhanbarth Morgannwg-Gwent |
Mirain Owen a Steve Blundell (Cyd-gadeiryddion) |
Cyfansoddiad Cymdeithas yr Iaith
Cysylltwch os am gopi o unrhyw un o'r dogfennau hyn:
- Polisi Treuliau Gwirfoddolwyr Cenedlaethol y Gymdeithas
- Canllaw Cadeirio Cyfarfodydd
- Polisi Urddas a Parch
- Polisi Ymddygiad
- Polisi Preifatrwydd.