Rydym fel tri mudiad iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n gadarn ac ar frys i warchod y cymunedau Cymraeg. Gan fod parhad a ffyniant yr iaith yn dibynnu ar y cymunedau hyn dylai cryfhau eu seiliau cymdeithasol-ieithyddol ac economaidd fod yn un o flaenoriaethau’r llywodraeth. Mae adroddiad Comisiwn y Cymunedau Cymraeg, a gomisiynwyd gan y llywodraeth ei hun, yn egluro’r sefyllfa argyfyngus bresennol a’r ffactorau sy’n effeithio’n negyddol ar yr iaith, ac mae argymhellion y Comisiwn yn cynnig ffordd ymlaen i ddiogelu ac atgyfnerthu’r cymunedau hyn.
Mae’r llusgo traed ar fater mor bwysig ac mor allweddol yn dangos diffyg difrifoldeb ar ran y llywodraeth. Pe bai’n llawn sylweddoli pwysigrwydd y cymunedau Cymraeg ac yn deall bod yr iaith yn yr argyfwng mwyaf yn ei hanes, fel y dengys ffigurau Cyfrifiad 2021, byddai’n mynd ati’n ddiymdroi i weithredu’r cam cyntaf allweddol, sef dynodi Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol (Dwysedd Uwch) neu gyfarwyddo'r awdurdodau lleol i wneud hynny, gan ddarparu'r grymoedd angenrheidiol i weithredu'n lleol.
Rydym o’r farn ei fod yn warth nad yw Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen i lunio trefniant pwrpasol gyda brwdfrydedd a brys i weithredu’r cam allweddol cyntaf o roi statws a hawliau cymunedol i’r Gymraeg a sicrhau bod y cynghorau sir yn cael y grymoedd priodol i’w gwarchod a’u cryfhau. Heb weithredu’n gadarn, bydd y dirywiad yn parhau.
Dylid gweithredu holl argymhellion y Comisiwn gan eu bod yn cwmpasu meysydd sy’n effeithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol ar gyflwr y Gymraeg fel iaith gymunedol.
Cylch yr Iaith
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Dyfodol i’r Iaith