Senedd Cymdeithas yr Iaith
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith y Gymdeithas.
Mae hawl gan unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith enwebu unrhyw aelod arall i wasanaethu fel aelod o'r Senedd. Gallwch ddarllen am gyfrifoldebau'r swyddogion gwahanol yma.
Bob Hydref, yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, etholir swyddogion a fydd yn gwasanaethu fel aelodau o'r Senedd am gyfnod o flwyddyn. Mae'r Swyddogion hyn yn gyfrifol am wahanol agweddau o waith y Gymdeithas. Caiff y Swyddogion sy'n gyfrifol am ranbarthau'r Gymdeithas eu hethol yng Nghyfarfodydd Blynyddol y rhanbarthau.
Dyddiadau cyfarfodydd 2023-24
Mae croeso i unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith ddod i gyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt, ond dim ond swyddogion etholedig a chyflogedig sydd â'r hawl i bleidleisio.
Mae pob cyfarfod yn canolbwyntio ar agwedd wahanol o waith y Gymdeithas (ymgyrchoedd, materion gweinyddol, rhanbarthau).
4/11/23 – Cyfarfod Senedd Ymgyrchoedd
2/12/23 – Cyfarfod Senedd Weinyddol
6/1/24 – Cyfarfod Senedd Ranbarthau
3/2/24 – Cyfarfod Senedd Ymgyrchoedd
2/3/24 – Cyfarfod Senedd Weinyddol
6/4/24 – Cyfarfod Senedd Ranbarthau
11/5/24 – Cyfarfod Senedd Ymgyrchoedd
8/6/24 – Cyfarfod Senedd Ranbarthau
6/7/24 – Cyfarfod Senedd Weinyddol
7/9/24 – Cyfarfod Senedd Ymgyrchoedd
5/10/24 – Cyfarfod Cyffredinol
Aelodau'r Senedd 2023-24
Cadeirydd |
Joseff Gnagbo |
Cyfrifol am reoli'r Gymdeithas rhwng cyfarfodydd Senedd |
Trysorydd |
Danny Grehan |
Cyfrifol am faterion ariannol y Gymdeithas |
Swyddog Codi Arian |
Jac Jolly |
Cyfrifol am weithgarwch codi arian y Gymdeithas |
Swyddog Dysgwyr |
James Cuff |
Trefnu gweithgarwch i bobl sy'n dysgu'r iaith |
Swyddog Rhyngwladol |
Joseff Gnagbo |
Cyfrifol am feithrin cysylltiadau gydag ymgyrchwyr iaith eraill |
Swyddog y We |
Sonny Yeung
|
Cyfrifol am ein presenoldeb ar-lein |
Golygydd y Tafod | Mared Llywelyn Williams | Golygydd cylchgrawn y Gymdeithas |
Cadeirydd y Grŵp Addysg |
Toni Schiavone |
Cadeirio cyfarfodydd y Grŵp a llefaru ar ei ran ac arwain ar ymgyrchoedd addysg |
Cadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy |
Jeff Smith |
Cadeirio cyfarfodydd y Grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â thai, cynllunio a materion eraill sy'n effeithio ar gymunedau Cymraeg |
Is-gadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy |
Robat Idris |
Cefnogi'r Cadeirydd, dirprwyo yn ôl yr angen a hwyluso gwaith y grŵp |
Cadeirydd y Grŵp Dyfodol Digidol |
Carl Morris |
Cadeirio cyfarfodydd y Grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â materion darlledu a phresenoldeb y Gymraeg arlein a materion eraill sy'n effeithio ar y Gymraeg yn y byd digidol |
Is-gadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol |
Mirain Owen |
Cefnogi'r Cadeirydd, dirprwyo yn ôl yr angen a hwyluso gwaith y grŵp |
Cadeirydd y Grŵp Hawl i'r Gymraeg |
Siân Howys |
Cadeirio cyfarfodydd y Grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â mynediad at wasanaethau yn Gymraeg a statws yr iaith |
Is-gadeirydd Grŵp Hawl i'r Gymraeg |
Cai Phillips |
Cefnogi'r Cadeirydd, dirprwyo yn ôl yr angen a hwyluso gwaith y grŵp |
Cadeirydd y Grŵp Iechyd a Lles |
Llinos Roberts |
Cadeirio cyfarfodydd y Grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â mynediad at wasanaethau yn Gymraeg a statws yr iaith o fewn y meysydd iechyd a lles |
Ynghyd â'r staff cyflogedig:
- Owain Meirion, Swyddog Cyfathrebu a Chyswllt Gwleidyddol (cyfathrebu@cymdeithas.cymru)
- Bethan Williams, Swyddog Ymgyrchoedd (ymgyrch@cymdeithas.cymru)
- Carol Jenkins, Ysgrifennydd Cyffredinol (post@cymdeithas.cymru)
A'r swyddogion rhanbarthol:
- Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion, Jeff Smith (jeff@cymdeithas.cymru)
- Cyd-gadeiryddion Rhanbarth Morgannwg-Gwent – i'w gadarnhau
- Cadeirydd Rhanbarth Gwynedd-Môn – Gwyn Sion Ifan (gwyn@cymdeithas.cymru)
- Cadeirydd Rhanbarth Powys – i'w gadarnhau
- Cadeirydd Rhanbarth Caerfyrddin-Penfro – i'w gadarnhau
- Cadeirydd Rhanbarth Glyndŵr – i'w gadarnhau
Noder bod y swyddi hyn yn wag ar hyn o bryd, cysylltwch os hoffech fod yn rhan o waith y Gymdeithas: Is-gadeirydd Cyfathrebu, Is-gadeirydd Gweinyddol, Is-gadeirydd Ymgyrchoedd, Swyddog Aelodaeth, Swyddog Dylunio, Swyddog Mentrau Masnachol, Is-gadeirydd y Grŵp Addysg.
Dogfennau perthnasol (cysylltwch os hoffech i ni anfon copi caled atoch trwy'r post):