Senedd y Gymdeithas

Senedd Cymdeithas yr Iaith

Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith y Gymdeithas.

Mae hawl gan unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith enwebu unrhyw aelod arall i wasanaethu fel aelod o'r Senedd. Gallwch ddarllen am gyfrifoldebau'r swyddogion gwahanol yma.

Bob Hydref, yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, etholir swyddogion a fydd yn gwasanaethu fel aelodau o'r Senedd am gyfnod o flwyddyn. Mae'r Swyddogion hyn yn gyfrifol am wahanol agweddau o waith y Gymdeithas. Caiff y Swyddogion sy'n gyfrifol am ranbarthau'r Gymdeithas eu hethol yng Nghyfarfodydd Blynyddol y rhanbarthau.

Dyddiadau cyfarfodydd 2024-2025

Mae croeso i unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith ddod i gyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt, ond dim ond swyddogion etholedig a chyflogedig sydd â'r hawl i bleidleisio.

Ar hyn o bryd, mae'r Senedd yn cyfarfod bob deufis gydag un Senedd yn canolbwyntio ar ymgyrchoedd a gwaith y rhanbarthau a'r nesa' yn canolbwyntio ar ymgyrchoedd a materion gweinyddol (sy'n cynnwys hefyd materion codi arian, cyfathrebu, dysgwyr, materion rhyngwladol ac aelodaeth).

2/11/24 – Cyfarfod Senedd Ymgyrchoedd a Rhanbarthau

12/1/25 – Cyfarfod Senedd Ymgyrchoedd a Gweinyddol

1/3/25 – Cyfarfod Senedd Ymgyrchoedd a Rhanbarthau

10/5/25 – Cyfarfod Senedd Ymgyrchoedd a Gweinyddol

5/7/25 – Cyfarfod Senedd Ymgyrchoedd a Rhanbarthau

6/9/25 – Cyfarfod Senedd Ymgyrchoedd a Gweinyddol

4/10/25 – Cyfarfod Cyffredinol

Aelodau'r Senedd

Cadeirydd Cenedlaethol: Joseff Gnagbo (joseff@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am reoli'r Gymdeithas rhwng cyfarfodydd Senedd

Is-gadeirydd Gweinyddol: Elin Hywel (elin@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am weinyddiaeth y Gymdeithas

Is-gadeirydd Ymgyrchoedd: Siân Howys (sian@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am gydlynu gwaith y grwpiau ymgyrchu

Trysorydd: Danny Grehan (danny@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am faterion ariannol y Gymdeithas

Golygydd y Tafod: Mared Llywelyn Williams (tafod@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am olygu cylchgrawn y Gymdeithas

Swyddog Codi Arian a Mentrau Masnachol: Mirain Owen (mirain@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am weithgarwch codi arian y Gymdeithas, gan gynnwys nwyddau

Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol: i’w gadarnhau – yn gyfrifol am ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol

Swyddog Diwylliant: i’w gadarnhau – yn gyfrifol am hyrwyddo ymgyrchu trwy ddulliau creadigol

Swyddog Dysgwyr: Richard Morse (richard@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am drefnu gweithgarwch i bobl sy'n dysgu'r iaith

Swyddog Rhyngwladol: Felix Parker-Price (felix@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am feithrin cysylltiadau gydag ymgyrchwyr iaith eraill

Cadeirydd y Grŵp Addysg: Toni Schiavone (toni@cymdeithas.cymru) – cadeirio cyfarfodydd y Grŵp a llefaru ar ei ran ac arwain ar ymgyrchoedd addysg

Is-gadeirydd y Grŵp Addysg: Siôn Dafydd (sion@cymdeithas.cymru) – cefnogi Cadeirydd y grŵp, dirprwyo yn ôl yr angen a hwyluso gwaith y grŵp

Cadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy: Jeff Smith (jeff@cymdeithas.cymru) – cadeirio cyfarfodydd y grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â thai, cynllunio a materion eraill sy'n effeithio ar gymunedau Cymraeg

Is-gadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy: Dylan Lewis-Rowlands (dylan@cymdeithas.cymru) – cefnogi Cadeirydd y grŵp, dirprwyo yn ôl yr angen a hwyluso gwaith y grŵp

Cadeirydd y Grŵp Dyfodol Digidol: Carl Morris (carl@cymdeithas.cymru) – cadeirio cyfarfodydd y grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â materion darlledu a phresenoldeb y Gymraeg arlein a materion eraill sy'n effeithio ar y Gymraeg yn y byd digidol

Is-gadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol: Carl Morris (carl@cymdeithas.cymru) – cefnogi Cadeirydd y grŵp, dirprwyo yn ôl yr angen a hwyluso gwaith y grŵp

Cadeirydd y Grŵp Hawl i'r Gymraeg: Jac Jolly (jac@cymdeithas.cymru) – cadeirio cyfarfodydd y grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â mynediad at wasanaethau yn Gymraeg a statws yr iaith

Is-gadeirydd Grŵp Hawl i'r Gymraeg: Aled Thomas (aledthomas@cymdeithas.cymru) – cefnogi Cadeirydd y grŵp, dirprwyo yn ôl yr angen a hwyluso gwaith y grŵp

Cadeirydd y Grŵp Iechyd a Lles: Llinos Roberts (llinos@cymdeithas.cymru) – cadeirio cyfarfodydd y grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â mynediad at wasanaethau yn Gymraeg a statws yr iaith o fewn y meysydd iechyd a lles

Ynghyd â'r staff cyflogedig:

A'r swyddogion rhanbarthol:

  • Caerfyrddin-Penfro: cynrychiolydd y rhanbarth ar y Senedd: Ffred Ffransis (ffred@cymdeithas.cymru)
  • Ceredigion: cynrychiolydd y rhanbarth ar y Senedd: Dylan Lewis-Rowlands (dylan@cymdeithas.cymru) – noder: Cadeirydd y rhanbarth yw Jeff Smith (jeff@cymdeithas.cymru)
  • Glyndŵr: i'w gadarnhau
  • Gwynedd-Môn: cynrychiolydd y rhanbarth ar y Senedd yw Cadeirydd y rhanbarth Gwyn Siôn Ifan (gwyn@cymdeithas.cymru)
  • Morgannwg-Gwent: i'w gadarnhau
  • Powys: i'w gadarnhau

Mae cyfle hefyd i aelodau ymuno a’r Senedd yn un o’r swyddi hyn: Is-gadeirydd Cyfathrebu, Swyddog Cyswllt Colegau, Swyddog Dylunio.

Mae Jac Jolly hefyd wedi ei ethol yn Swyddog Aelodaeth yn gyfrifol am hyrwyddo aelodaeth a thynnu aelodau mewn i weithgarwch y Gymdeithas; nid yw’r swydd hon yn rhan o’r Senedd.

Dogfennau perthnasol (cysylltwch os hoffech i ni anfon copi caled atoch trwy'r post):