Sut i drefnu gigs - canllaw

[Cliciwch yma i agor fel PDF]

Canllawiau ar gyfer trefnu Gigs

1. Rhaid penderfynu ar gyllid

Cyllid -swm penodol o arian i’w wario wrth drefnu’r gig . Yn y cyllid, rhaid  cynnwys talu am:

  • Leoliad y gig

  • Bandiau/D.J

  • P.A

  • Bownsars (lle bo’ angen )

Wrth benderfynu ar gyllid, mae’n bwysig ystyried y costau a’r incwm tebygol. Rhaid anelu at dalu’r holl gostau o leiaf,  ac yn ddelfrydol at wneud elw ! e.e Nid oes pwrpas talu £400 am fand i chwarae mewn canolfan sydd ond yn dal cant o bobl o chodi £3.00 ar ddrws am na fyddwch yn medru codi digon i dalu’r band.  

2. Rhaid llogi adeilad

Cofiwch fod cost hyn hefyd yn dod allan o’ch cyllideb a bod yn rhaid ystyried yn ddwys maint y lle. Nid oes pwynt llogi neuadd anferthol os nad ydych yn disgwyl torfeydd. Hefyd afresymol fuasai llogi cefn pyb sy’n dal dim mwy na hanner chant o hanner os ydych yn disgwyl pump bws llawn anifeiliaid awyddus! 

Buasai’n syniad cael cytundeb ar bapur tebyg i’r un isod yn datgan yn glir rheolau’r lleoliad e.e faint o’r gloch mae’n cau. Ar gyfer gigs eitha’ mawr weithiau mae’n bosib cael estyniad ar oriau’r bar ond mae’n rhaid trefnu hyn o flaen llaw gyda rheolwr y lle.  Rhaid trefnu hyn i gyd yn gynnar!!!!!!

3. Rhaid penderfynu ar fandiau

Wedi  gosod eich cyllideb, rhaid dewis eich bandiau wrth ystyried faint o arian sydd gyda chi ac at ba gynulleidfa yr ydych yn anelu. Gofynnwch i bobl pwy fuasen nhw’n hoffi gweld, gwnewch ychydig bach o ymchwil marchnad o cheisio dyfalu pwy fuasai’n fwya llwyddiannus.  e.e Pôl ‘piniwn ar Facebook a Twitter.

Wedi penderfynu ar fand, rhaid cysylltu â nhw a bargeinio i dalu’r gost lleiaf a allwch chi. Wedi iddynt gytuno ar lafar, gyrrwch gytundeb atynt a mynnu eu bod yn ei arwyddo a’i ddychwelyd. Rhywbeth tebyg i hyn:

"Yr ydym ni ______ yn cytuno i chwarae ar Fedi 5ed 2004 yng ngwesty’r Emlyn, Castell Newydd Emlyn am 9:30yh am swm o £___. Byddwn yn gwneud set uniaith Gymraeg i bara tri chwarter awr. Os methwn ni gadw at y cytundeb byddwn yn talu’r costau .

 

Llofnod __________

Dyddiad__________"

 

Cofiwch gadw copi yn ogystal â rhoi un i’r band/iau.

4. Y neges wleidyddol

Mae’n rhaid manteisio ar y ffaith fod cannoedd o bobl yn dod at ei gilydd mewn gig i drosglwyddo neges ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith gellir gwneud hyn trwy:

  • Roi gwybodaeth am ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith ar daflenni a phosteri sy’n hysbysebu’r gig.

  • Backdrops ‘ gyda neges wleidyddol yn y gig.  

5. Hysbysebu’r gig 

Dyma’r gwaith anoddaf ond pwysicaf. Heb hysbysebu’n drylwyr mae ‘na bosibilrwydd na ddaw neb i’r gig.

Ffyrdd o hysbysebu :

  • Posteri (gweler y daflen ar sut i baratoi posteri)

  • Taflenni (gweler yr un daflen)

  • Gellwch  yrru posteri a thaflenni at ysgolion, celloedd, colegau, eu codi mewn siopau/tafarnau lleol, eu pastio o gwmpas y dre’ neu eu dosbarthu ar y stryd.

  • Cysylltu gyda’r cyfryngau. Gellir eu ffonio neu e-bostio yn nodi manylion y gig.

  • Defnyddiwch y cyfryngau Cymdeithasol i hyrwyddo - gellid hyd yn oed creu fideo hyrwyddo os ydych chi’n meddu ar y sgiliau!

Dyma ambell un y gellir cysylltu â hwy:

Radio Cymru

Golwg

Y Tafod

Eich radio/papur lleol

Papurau bro 

Cysylltwch â chelloedd eraill a gofyn iddynt drefnu bysiau/liffts i’ch gig (gweler y daflen ar sut i drefnu bysiau).

Os yw’r gig yn ddigon mawr mae’n syniad gwneud a gwerthu tocynnau o flaen llaw i arbed amser ar y noson a rhoi rhyw o syniad i chi ynglŷn â faint i’w ddisgwyl.
 

6. Rhai diwrnodau cyn y gig 

  • Ffoniwch y band/iau i sicrhau bob popeth yn iawn a phryd maent yn disgwyl cyrraedd.

  • Ffoniwch y ganolfan i sicrhau nad ydynt wedi ei ail-logi’r lle a rhoi gwybod iddynt pa bryd y bydd y band/iau eisio gosod eu stwff.  

  • Casglwch unrhyw arian o werthu tocynnau (os yn berthnasol).

  • Edrychwch o gwmpas y ganolfan i weld os oes mynedfa dan neu unrhyw ddrysau eraill, os felly trefnwch stiwardiaid i ofalu nad yw pobl yn ceisio dod i mewn y ffordd yna.

7. Ar y diwrnod
 

  • Sicrhewch fod o leiaf un ohonoch yn y ganolfan pan ddaw’r band.

  • Sicrhewch fod gennych chi “fflôt “ fel newid i bobl sydd yn talu wrth y drws.

  • Sicrhewch fod gennych arian/siec i dalu’r band/iau a.y.b.

  • Trefnwch fod mwy nac un ohonoch yn casglu arian ar y drws.

  • Trefnwch fod ‘na rhywun tu ôl i’r llwyfan yn sicrhau bod y bandiau yn barod a rhywun i gyflwyno’r bandiau.

8. Ar ôl y gig

  • Dylai rhywun fod yn gyfrifol am dalu bandiau a chostau eraill.

  • Sicrhau bod pawb yn gadael mor fuan â phosibl.

9. Pwynt arall

Mae’n bwysig cofio os ydych chi’n trefnu gig eich bod yn gyfrifol am yr arian ac yn sicrhau bod popeth yn rhedeg i amser ac i drefn. Awgrymaf felly i chi beidio meddwi, cred ti fi, nid peth hawdd yw cyfri arian pan wyt ti’n gweld dwbwl!!