Mae gan ranbarth Ceredigion Cell Myfyrwyr hynod o brysur ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae Cell Gogledd Ceredigion yn ail sefydlu ei hun.
Wrth i'r Cyngor Sir gynnal ymgynghoriad i dreth ar ail dai a thai gwag, mae'n hymateb ni yma. Gallwch ddefnyddio'n hymateb ni fel sail i ymateb ar y ffurflen ar wefan y Cyngor Sir sydd yma
Mae Cyngor Ceredigion wedi ymgynghori ar Ganllawiau Atodol y Gymuned a'r Gymraeg eu Cynllun Datlygu Lleol. Mae ymateb rhanbarth Ceredigion y Gymdeithas i'w weld yma. Mae manylion llawn y Cynllun Datblygu Lleol ar wefan y cyngor gyda manylion yr ymgynghoriad yma
Deiseb Dwi eisiau byw yn Gymraeg Ceredigion:
Yn dilyn Rali'r Cyfrif: 50 mlynedd ers Trefechan, byddwn yn cyflwyno deiseb i'r Cyngor Sir yn pwyso arnynt i alluogi pobl drwy Geredigion i fyw yn Gymraeg.
Mae angen dy help i gasglu enwau ar y ddeiseb - mae modd i unrhyw sydd yn byw neu yn gweithio yn y sir i arwyddo'r ddeiseb felly hola dy deulu, ffrindiau ac unrhyw grwpiau, gymdeithasau neu glybiau rwyt ti'n rhan ohonyn nhw i roi eu henw i'r ddeiseb.
Mae modd lawrthlwytho'r ddeiseb yma (PDF)
Byddwn yn cyflwyno'r ddeiseb i gyfarfod llawn y Cyngor ar Ebrill y 25ain felly bydd angen i ni dderbyn yr holl ddeisebau yn ol i'r brif swyddfa erbyn yr 22ain o Ebrill.
Ein galwadau i'r Cyngor Sir:
1. Symud tuag at weithredu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd.
Mewn sir lle mae dros 40 % o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, dylai pob disgybl ysgol adael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg; a gyda chynifer o golegau addysg bellach a phrifysgolion, dylai’r Gymraeg fod yn sgil hanfodol yn y mwyafrif o’r swyddi o ystyried y galw i wasanaethu’r cyhoedd yn ddwyieithog.
Byddai hyn yn sicrhau cyflogaeth a chyfle i bobl ifanc aros yn Ngheredigion a rhoi hawl i weithiwr allu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.
2. Sicrhau fod holl ddarpariaeth hamdden y Cyngor i bobl ifanc ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
Os yw'r Gymraeg i fod yn iaith sydd i'w defnyddio tu allan i'r dosbarth rhaid i bob darpariaeth hamdden fod ar gael yn gwbl ddwyieithog – o wersi chwaraeon i glybiau ieuenctid; er mwyn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc y sir ddefnyddio’r Gymraeg.
3. Sicrhau cartrefi i bobl leol fel bod modd iddynt aros yng Ngheredigion.
Er mwyn i bobl allu aros yng Ngheredigion rhaid sicrhau tai o faint amrywiol am rent teg, gyda blaenoriaeth i bobl leol fel rhan o’r system bwyntiau tai cymdeithasol. Rydym yn galw ar y Cyngor i symud ar frys i adfeddiannu’r nifer sylweddol o dai gwag yn y sir ac i alw am yr hawl i godi treth cyngor o 200 % ar dai gwyliau a thai haf.
Mwy o Wybodaeth
Os ydych am ddod yn rhan o'r frwydr dros ddyfodol y Gymraeg yng Ngheredigion cysylltwch â Swyddfa'r Gymdeithas yn Aberystwyth (01970 624501) neu e-bostiwch Elfed ar dyfed@cymdeithas.cymru