Ceredigion

Cyfarfod Rhanbarth Ceredigion

08/01/2025 - 19:30

Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, Aberystwyth (SY23 1DL) ac ar-lein

Gyda dim ond 25 mlynedd i gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr, beth gallwn ni wneud yng Ngheredigion i bwyso am weithredu mwy brys?

Am ragor o wybodaeth neu ddolen i ymuno ar-lein cysylltwch - bethan@cymdeithas.cymru

Galw ar Lywodraeth Cymru am eglurder ar bolisi ysgolion gwledig

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Lynne Neagle, i ddefnyddio'r adolygiad cyfredol o'r Cod Trefniadaeth Ysgolion i ddatgan yn gwbl eglur bod y rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol gychwyn o safbwynt ceisio eu cynnal a'u cryfhau, ac ystyried eu cau os bydd pob opsiwn arall yn methu.

Helynt Ysgolion Ceredigion: galw am arweiniad clir gan yr ysgrifennydd addysg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle, i fanteisio ar adolygiad presennol y Cod Trefniadaeth Ysgolion i roi arweiniad clir a dangos fod y Llywodraeth o ddifri am y polisi o ragdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig.

Croesawu tro pedol ar ymgynghoriad ysgolion gwledig Ceredigion

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cynnig a fydd yn cael ei gyflwyno gerbron cyfarfod Cabinet Cyngor Ceredigion ddydd Mawrth nesaf (3 Rhagfyr) i adalw’r penderfyniad i gynnal ymgynghoriad statudol ar gau pedair o ysgolion gwledig Cymraeg y sir.

Cabinet Cyngor Ceredigion wedi’i gamarwain cyn pleidlais dros ddyfodol ysgolion gwledig

Mae Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru wedi gwadu bod swyddog Cyngor Ceredigion wedi derbyn sêl bendith gan y Llywodraeth wrth lunio cynigion i gau pedair o ysgolion gwledig Cymraeg y sir, yn groes i’r hyn ddywedodd cyn pleidlais allweddol y Cabinet ar y mater.

Comisiynydd y Gymraeg: camgymeriad pellach gan Gyngor Ceredigion dros ddyfodol ysgolion gwledig

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi datgan nad yw Cyngor Ceredigion wedi cydymffurfio â Safonau’r Iaith cyn cynnal ymgynghoriad ar gau ysgol wledig Gymraeg yn y sir.

Anfon cwyn i’r ysgrifennydd addysg dros benderfyniad ysgolion gwledig Ceredigion

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon cwyn ffurfiol at Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg Llywodraeth Cymru dros benderfyniad Cyngor Ceredigion i barhau gydag ymgynghoriad ar gau tair ysgol wledig Gymraeg yn y sir, gan ddweud bod disgwyl iddi ddatgan bod yr ymgynghoriad yn “annilys.”

Ysgrifennydd Addysg yn rhoi diwedd ar ansicrwydd polisi ysgolion gwledig

Mewn cyfarfod gyda Chymdeithas yr Iaith heddiw (dydd Mercher, 25 Medi), rhoddodd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, ddiwedd i unrhyw ansicrwydd ynghylch gweithrediad Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Cabinet Cyngor Ceredigion yn trin rhieni a thrigolion “fel pobl i’w trechu” wrth fynd ymlaen ag ymgynghoriad i gau 4 ysgol wledig Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cabinet Cyngor Ceredigion am drin rhieni a thrigolion “fel pobl i’w trechu” yn hytrach na “phartneriaid” yn dilyn penderfyniad heddiw (dydd Mawrth, 3 Medi) i barhau gydag ymgynghoriad ar gau 4 o ysgolion gwledig Gymraeg y sir.

Ysgolion gwledig Ceredigion: Ysgrifennydd Addysg yn cadarnhau rhagdyb o blaid ysgolion gwledig

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhyddhau testun e-bost gan Ysgrifennydd newydd Cabinet y Llywodraeth dros Addysg, Lynne Neagle, sy’n cadarnhau fod y rhagdyb o blaid ysgolion gwledig – sy'n ganolog i argraffiad 2018 y Cod Trefniadaeth Ysgolion – yn parhau'n bolisi swyddogol Llywodraeth Cymru. Daw'r datblygiad hwn wedi i swyddogion Cyngor Ceredigion hysbysu llywodraethwyr eu bod yn adolygu dyfodol nifer o ysgolion gwledig trwy'r sir yng nghyd-destun gwneud arbedion brys i’w cyllideb ar gyfer 2025-26.