Ceredigion

Dyfarnu yn erbyn ymgyrchydd iaith dros rybudd parcio uniaith Saesneg

Dyfarnodd llys yn Aberystwyth yn erbyn yr ymgyrchydd iaith Toni Schiavone heddiw (13 Mai) a chaniatau i gwmni parcio One Parking

Galw am agwedd gadarnhaol tuag at ysgolion gwledig Ceredigion

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Ceredigion i drin ysgolion gwledig y sir gydag agwedd “cadarnhaol” yn lle eu trin fel “problemau” yn dilyn pryderon dros ddyfodol rhai ohonyn nhw.

Mewn ymateb i gais am gefnogaeth gan Lywodraethwyr Ysgol Llangwyryfon, cysylltodd y mudiad gyda Dirprwy Brif Swyddog Addysg Cyngor Ceredigion, Clive Williams, i bwysleisio nad yw dull presennol y Cyngor o drin dyfodol nifer o ysgolion gwledig y sir yn gyson â'i ddyletswyddau statudol dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018).

Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Gyngor Ceredigion i “gydweithio” gyda chymunedau gwledig y sir yn sgil pryderon dros ad-drefnu ysgolion cynradd

Mewn ymateb i adroddiadau a phryderon bod dyfodol nifer o ysgolion cynradd gwledig Ceredigion dan fygythiad, dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith:

Myfyrwyr yn arwain piced wrth Swyddfa Bost Aberystwyth oherwydd ddiffyg gwasanaethau Gymraeg

Mae myfyrwyr wedi arwain ail biced Cymdeithas yr Iaith y tu allan i Swyddfa Bost Aberystwyth heddiw wrth i ragor o gwsmeriaid wynebu agwedd wrth-Gymraeg, er gwaetha addewidion na fyddai’n digwydd eto.

Cyfarfod Rhanbarth Ceredigion gydag aelodau'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg

19/02/2025 - 18:30

6.30, nos Fercher, 19 Chwefror
Cyfarfod hybrid – Ymddiriedolaeth James Pantyfed ac arlein

Bydd cyfarfod rhanbarth byr am 6.30 cyn i rai o aelodau'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg sy'n byw yng Ngheredigion ymuno gyda ni am 7.00 er mwyn trafod sut gallai argymhellion y Comisiwn fod o fudd i ni yma yng Ngheredigion.

Am ragor o wybodaeth neu am ddolen i ymuno ar-lein cysylltwch ag ymgyrch@cymdeithas.cymru.

Taflu achos Toni Schiavone dros ddirwy parcio uniaith Saesneg o'r llys unwaith eto

Taflodd y dirprwy barnwr Owain Williams achos One Parking Solution yn erbyn Toni Schiavone o'r llys y bore yma (4 Awst), gan i’r cwmni parcio oedi gormod cyn lansio'r apêl a chyflwyno’r achos dan reolau anghywir.

Galw ar Gyngor Ceredigion i ddefnyddio’r Gymraeg fel prif iaith gweinyddu mewnol

Mae rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Ceredigion i symud tuag at ddefnyddio’r Gymraeg fel prif iaith gweinyddu mewnol, ac wedi ysgrifennu at y Comisiynydd Iaith yn galw arni i annog Cyngor Ceredigion i symud at weinyddu yn Gymraeg.

Un o nodau’r Llywodraeth yn Cymraeg 2050 yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ar draws pob sector. 

Her i'r Cyngor ymateb i ganlyniadau'r Cyfrifiad

Mewn cyfarfod agored ar Ionawr 21 gosododd pobl Ceredigion her i Gyngor Ceredigion chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â chwymp ym mhoblogaeth a chanran siaradwyr Cymraeg y sir.

Cynhaliwyd y cyfarfod yn sgil cyhoeddi cwymp yng nghanran siaradwyr Cymraeg y sir ddechrau Rhagfyr 2022. Roedd cynrychiolaeth o fudiadau'r sir, cynghorwyr sir a chymuned ac unigolion yn bresennol yn y cyfarfod; yn eu plith roedd rhai o aelodau Cabinet Cyngor Ceredigion, gan gynnwys yr arweinydd, Bryan Davies.

Dywedodd Tamsin Davies ar ran rhanbarth Ceredigion:

Trethu Ail Gartrefi: ‘Pryder’ am ddiffyg gweithredu Cyngor Ceredigion

Byddwn ni'n mynegi pryder nad yw Cyngor Ceredigion yn paratoi i godi treth cyngor uwch ar ail gartrefi yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth ddydd Sadwrn nesaf (8 Hydref) wrth drafod cynnig sy’n canmol Cyngor Gwynedd am ymgynghori ar godi treth cyngor uwch ar ail gartrefi i 300%.

Fodd bynnag, mae’r cynnig hefyd yn mynegi pryder nad yw Cyngor Ceredigion wedi defnyddio eu pwerau llawn presennol i godi’r dreth i 100%.

Galw ar Gyngor Ceredigion i ddefnyddio pwerau ail gartrefi newydd 'yn llawn'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Arweinydd Cyngor Ceredigion gan alw arno i  ‘wneud defnydd llawn’ o’i bwerau newydd i fynd i’r afael â’r argyfwng tai. 

Mae’n dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fis diwetha y bydd gan awdurdodau lleol ragor o rymoedd i fynd i’r afael ag ail gartrefi. Mae’r pecyn o fesurau yn cynnwys y canlynol: