08/10/2024 - 19:30
7.30, nos Fercher, 8 Hydref
Cyfarfod hybrid – Canolfan Merched y Wawr a dros Zoom
Mae cyfarfodydd rhanbarth yn rhoi cyfle i ganolbwyntio ar ymgyrchoedd lleol tra'n cael diweddariad hefyd ar ymgyrchoedd cenedlaethol.
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu ymgynghori ar gau pedair ysgol felly byddwn ni'n cynllunio ymgyrch i gefnogi cymunedau fydd â'u hysgolion dan fygythiad.
Byddwn ni hefyd yn trafod ymgyrchoedd ym maes tai.
Am ragor o wybodaeth neu am ddolen i ymuno ar-lein cysylltwch â post@cymdeithas.cymru neu bethan@cymdeithas.cymru.