Cyfarfod Rhanbarth Ceredigion

24/07/2024 - 19:00

7yh, nos Fercher, 24 Gorffennaf
Cyfarfod hybrid – Canolfan Merched y Wawr a dros Zoom

Mae cyfarfodydd rhanbarth yn rhoi cyfle i ganolbwyntio ar ymgyrchoedd lleol tra'n cael diweddariad hefyd ar ymgyrchoedd cenedlaethol.

Yn y cyfarfod hwn, bydd diweddariad ar sefyllfa ysgolion gwledig y sir a diweddariad ar strategaeth hybu'r Gymraeg Cyngor Ceredigion. Bydd cyfle hefyd i godi unrhyw faterion eraill.

Am ragor o wybodaeth neu am ddolen i ymuno ar-lein cysylltwch â post@cymdeithas.cymru neu bethan@cymdeithas.cymru.