
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhoi marc o 33 allan o 100 i ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Yn ôl y mudiad, mae’r ymateb yn cydnabod yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg ond nid yw’n cynnig gweledigaeth nac yn dangos ewyllys i weithredu.
Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
“Fe wnaeth y Comisiwn Cymunedau Cymraeg drafod am ddwy flynedd, mae’r Llywodraeth wedi trafod am 10 mis a phenderfynu ar ragor o drafod, ac ystyriaeth bellach ar ôl etholiad y flwyddyn nesa. Pam bod y Llywodraeth yn dal i sôn am drafod a gwneud gwaith ystyried pellach yn hytrach na gweithredu? Dydy diffyg gweithredu’r Llywodraeth ddim yn cyfateb â’r argyfwng sy’n wynebu ein cymunedau.
“Mae disgyblion a myfyrwyr sydd ar y maes yn cael eu marcio ar eu llwyddiant addysgol, rydyn ni wedi marcio ymateb y Llywodraeth - eu gwaith cartref fel petai - ond yn anffodus mae’n haeddu marc isel iawn.”
Un o brif argymhellion y Comisiwn oedd creu ardaloedd sydd â dwysedd uwch o siaradwyr Cymraeg a dynodi cymunedau sydd â 40% neu ragor o siaradwyr Cymraeg yn byw ynddyn nhw yn ardaloedd dwysedd uwch. Yno, byddai polisïau'n gallu cael eu teilwra i ofynion economaidd, cymdeithasol, cynllunio ac ieithyddol yr ardaloedd hynny.
Wrth ymateb i’r argymhelliad hwnnw, ychwanegodd Jeff Smith:
“Does dim ymrwymiad yn ymateb ysgrifenedig y Llywodraeth i dderbyn yr argymhelliad hwn, ac yn sicr dim ymrwymiad i dderbyn yr argymhelliad mai cymunedau â 40% o siaradwyr sy’n cael eu hystyried yn ardaloedd dwysedd uwch yn ddi-ofyn. Pryderwn nad oes ymrwymiad i ddeddfu ac felly nad oes sicrwydd y bydd yr ardaloedd yn cael eu creu wedi'r cyfan. O ran hyn ac argymhellion eraill, dydy ein cymunedau ddim yn gallu diodde rhagor o oedi.”