Dy Ardal Di

Mae sicrhau trefniadaeth leol effeithiol yn ran holl bwysig o waith Cymdeithas yr Iaith. O wneud hyn, gellir ennill sylw i alwadau ac ymgyrchoedd y mudiad mewn nifer o ardaloedd gwahanol.

Map o'r rhanbarthauRhanbarthau

Mae gan y mudiad 6 rhanbarth sy'n ymestyn ar draws Cymru gyfan:

Mae'r rhanbarthau hyn yn cwrdd yn rheolaidd, ac yn trefnu ymgyrchoedd yn eu hardal hwy.

Pwysa ar dy ranbarth di er mwyn cael gwybod pryd fydd y cyfarfod nesaf ac er mwyn gweld beth sydd ar y gweill ar hyn o bryd.

Celloedd

O fewn pob rhanbarth, mae nifer o gelloedd lleol. Y 'gell' yw'r elfen mwyaf lleol o drefniadaeth y Gymdeithas. Gellir sefydlu celloedd mewn ysgol, coleg, pentref, tref, dinas neu mewn man gwaith. 

Pwysa ar dy Ranbarth i weld a oes cell yn dy ardal. Os nad oes, beth am sefydlu un? Gall unrhyw aelod sefydlu cell yn enw'r Gymdeithas; gall cell fod yn unrhyw beth o ddau ffrind yn cwrdd bob nawr ac yn y man i ddegau o bobl yn cwrdd yn gyson.

Cysyllta gyda dy Ranbarth os wyt am gychwyn cell, a gall y Rhanbarth wedyn dy roi di mewn cysylltiad ag aelodau eraill yn dy ysgol, coleg, pentref, tref neu fan gwaith.