Ymgyrch Cymreigio M&S

Mae polisi iaith M & S yn "pants" a'u dirmyg at bobl leol mewn cymunedau Cymraeg fel Caerfyrddin yn amlwg.

Bydd trip siopa arbennig i M&S Trostre, tu fas i Lanelli, ddydd Sadwrn y 25ain o IOnawr. Byddwn ni'n cwrdd am 11 i drafod 'rhestr siopa' - cysyllta gyda Bethan am fwy o wybodaeth - bethan@cymdeithas.org / 01559 384378.

PWYSWCH YMA I DDANFON LLYTHYR AT M&S

Tan eleni gwelwyd arwyddion dwyieithog yn siop M&S Caerfyrddin, yn enwedig yn yr Adran Fwyd. Wedi deall eu bod yn mynd i ail-wampio'r siop ddechrau'r flwyddyn fe gafwyd cyfarfod i drafod polisi iaith y cwmni.

Cafwyd addewid gan reolwr a swyddog gyda chyfrifoldeb dros siopau'r cwmni yn y 'De Orllewin a Chymru' i'n sicrhau y byddent yn parhau i arddangos arwyddion Cymraeg.

Fe wnaethon ni alw hefyd fod:

  • Arwyddion parhaol a dros dro yn ddwyieithog

  • Staff yn siarad Cymraeg a bod recriwtio staff Cymraeg, a bod cefnogaeth i staff i ddysgu Cymraeg yn ystod oriau gwaith.

  • Defnydd o’r uchelseinydd yn ddwyieithog

  • Cynnyrch o Gymru’n cael ei labelu fel cynnyrch o Gymru yn hytrach na Phrydain

Er hynny mae'r ailwampio wedi golygu COLLI'R Gymraeg! Tynnwyd yr arwyddion dwyieithog o'r Neuadd Fwyd a rhoddwyd geiriau enfawr Saesneg ar y waliau - cam yn ôl yw hyn.

Mwy -

Ymweliad 'Mark Spencer' â'r siop yng Nghaerfyrddin, Mai 2013 - http://cymdeithas.org/newyddion/mark-spencer-yn-dod-i-gaerfyrddin

Amgylchynu siop M&S Caerfyrddin gyda chadwyn o bants a phrotestwyr, 20fed o Orffennaf - http://cymdeithas.org/newyddion/cadwyn-o-bants-yn-cythruddo-mark-spencer

Bydd trip siopa arbennig yn cael ei drefnu ar gyfer dydd Sadwrn y 3ydd o Awst, os ydych yn gallu dod cysylltwch gyda ni am fwy o wybodaeth.

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn rhannu 'cardiau teyrngarwch i'r Gymraeg' yn galw ar Marks and Spencer i ddangos teyrngarwch i'r Gymraeg. Os ydych chi am wneud cysylltwch gyda ni i gael cerdyn.

01559 384378 / bethan@cymdeithas.org

Dydy'r hanes ddim yn unigryw i Gaerfyrddin....

Yn Llanelli adnewyddodd M&S yr adran fwyd yn 1994 gan anwybyddu'r Gymraeg yn llwyr. Aethom ati i drafod y mater gyda'r rheolwr a'r is-reolwr nifer o weithiau, heb unrhyw lwyddiant. Daliwyd ymlaen i drafod a llythyru dros gyfnod o ddwy flynedd – ond wedi sawl gweithred penderfynodd M&S godi arwyddion dwyieithog.

Er hynny, ar ôl symud eu siop o ganol y dre i Barc Trostre penderfynwyd gosod arwyddion Saesneg i fyny unwaith eto yn y FOOD HALL! Er y cwyno, trafod a llythyru ni chafwyd ymateb o gwbl. Felly, cyn y Nadolig 2011 penderfynodd aelodau'r Gymdeithas ac eraill ymgyrchu ond a hithau'n 2013 does dim wedi digwydd.