Dyfarnu yn erbyn ymgyrchydd iaith dros rybudd parcio uniaith Saesneg

Dyfarnodd llys yn Aberystwyth yn erbyn yr ymgyrchydd iaith Toni Schiavone heddiw (13 Mai) a chaniatau i gwmni parcio One Parking Solution hawlio costau mewn ffrae gyfreithiol estynedig dros rybudd parcio uniaith Saesneg. Er hynny, bydd Toni Schiavone yn parhau i wrthod talu nes iddo dderbyn copi o’r rhybudd gan y cwmni parcio yn Gymraeg.

Yn ôl y farnwraig, nid oedd unrhyw sail cyfreithiol i orfodi’r cwmni i ddarparu gwasanaeth Cymraeg. Mae ymgyrchwyr iaith yn mynnu bod hyn yn dangos bod “diffyg difrifol” yn y ddeddfwriaeth sy’n amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg..

Derbyniodd Toni Schiavone y rhybudd gwreiddiol ym Medi 2020 am barcio mewn maes parcio preifat yn Llangrannog, ond gwrthododd dalu gan na dderbyniodd y rhybudd yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, er iddo anfon dau lythyr at y cwmni yn ogystal â’u ffonio.

Taflwyd y ddau achos cyntaf o’r llys dros faterion technegol, ond mewn gwrandawiad ar 26 Ionawr eleni, enillodd One Parking Solution apêl i barhau i erlyn Mr Schiavone, wedi i’r barnwr ddyfarnu nad oedd sail i daflu’r ddau achos cyntaf o’r llys.

Yn siarad yn yr achos llys heddiw, dywedodd Toni Schiavone:

“Mae’r Gymraeg yn Iaith swyddogol a chyfartal yng Nghymru ac mae gennym ni fel siaradwyr Cymraeg hawliau yn ôl y gyfraith, ac mewn egwyddor, dylid parchu hynny. Mae’r cais am Daleb Cosb Parcio yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn rhesymol ac yn ymarferol. Byddai wedi costio tua £60 i gyfieithu.

“Gallai’r achos yma fod wedi cael ei ddatrys yn hawdd iawn ac yn gyflym iawn trwy ddarparu Taleb Cosb Parcio yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog. Ydy peidio gwneud hynny yn dangos rhagfarn yn erbyn y Gymraeg? Yn fy marn i, yndi.”

Dywedodd Toni bod yr hawlydd wedi ymddwyn yn fygythiol, gan anfon llythyrau yn hawlio £10,156.70 o gostau cyfreithiol ddiwrnod cyn ei wrandawiad fis Ionawr yn ogystal â llythyr arall gyda chostau ychwanegol o dros £4,000 ddeuddydd cyn yr achos heddiw. Yn ôl gwaith ymchwil Cymdeithas yr Iaith, byddai cyfieithu’r ddirwy i’r Gymraeg wedi costio dim ond £60.

Dywedodd y farnwraig Lowri Williams bod Toni wedi ymddwyn yn “onest, egwyddorol”, ac wedi dangos “ymroddiad di-wyro i’r Gymraeg a’r achos dros yr iaith.”

Er hynny, dywedodd yn ystod ei dyfarniad nad oes unrhywbeth yn Neddf Iaith 1967, Deddf Iaith 1993, na Mesur yr Iaith Gymraeg 2011 i orfodi’r cwmni parcio i ddarparu gwasanaeth Gymraeg.

Gorchmynodd felly bod Toni yn talu’r rhybudd o £100, yn ogystal a £70 ar gyfer costau gweinyddol, £11.90 o log a £85 ar gyfer ffi y llys o fewn 21 diwrnod.

Wedi egluro’i dyfarniad a’i gorchymyn, dywedodd Toni Schiavone “Dwi’n deall, ond dwi’n gwrthod talu.”

Yn dilyn yr achos llys, dywedodd Siân Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’r ddyfarniad heddiw yn dangos - er gwaethaf honiad Llywodraeth Cymru - nad oes gan y Gymraeg statws cyfartal yng Nghymru. Mae’r farnwraig wedi gwneud ei gwaith yn drylwyr a chanfod nad oes unrhywbeth yn y ddeddfwriaeth sy’n mynnu bod hawl Toni i ddefnyddio’i iaith ei hun yn ei wlad ei hun yn cael ei barchu.

“Beth sy’n amlwg felly yw bod angen i Lywodraeth Cymru gywiro’r diffyg difrifol sy’n y ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn gallu defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau.”