Cyfarfod Cyffredinol 2023
10:30yb, dydd Sadwrn, 7 Hydref 2023
Y Lle Arall, Caernarfon
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ein Cyfarfod Cyffredinol eleni. Mae croeso i bawb yn ein Cyfarfod Cyffredinol ond dim ond aelodau sydd â'r hawl i bleidleisio.
Cofiwch roi gwybod os ydych yn dod, er mwyn i ni sicrhau bod digon o gopïau o'r dogfennau ar gael. Ni fyddwn yn darparu cinio.
Bydd y grŵp Ffilm o Chwith yn dangos y ffilm Nae Pasaran yn y Galeri am 7.00 y noson cyn y Cyfarfod Cyffredinol. Dewch lan am y penwythnos felly – a chewch disgownt o 10% ar gostau llety yn Llety Arall (cynnig arbennig i aelodau Cymdeithas yr Iaith). Rhaid trefnu hyn yn uniongyrchol gyda Llety Arall.
Bydd cyfarfod agored i drafod sut mae grymuso'n cymunedau a sicrhau cymunedau cynaliadwy Cymraeg ar gyfer y dyfodol yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol am 2.30 – manylion pellach yma.
Angen cymorth er mwyn gallu dod i'r cyfarfod?
-
Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.
-
Mae swyddogion y Gymdeithas yn gallu cynnig lifftiau o nifer o leoedd yn y wlad.
-
Os yw costau trafnidiaeth neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl. Rydym ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi rannu lifft gyda swyddogion eraill.
-
Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall.
-
Gallwch ddarllen y Polisi Treuliau yn llawn yma.