Cymunedoli – cyfoeth mwy nag arian

07/10/2023 - 14:30

Y Lle Arall, 9 Stryd y Plas, Caernarfon LL55 1RR

Yn dilyn ein Cyfarfod Cyffredinol, byddwn yn cynnal digwyddiad agored, dan gadeiryddiaeth Robat Idris, i drafod ffyrdd o rymuso ein cymunedau.

Mae Cymunedoli, sef sicrhau fod adnoddau lleol yn cael eu perchnogi gan gymunedau lleol, wedi datblygu a lledu llawer dros y ddegawd ddiwethaf.

Dyma gyfle i ddysgu beth mae'r mentrau hyn yn medru eu cyflawni, beth yw'r camau angenrheidiol i lwyddiant, a beth fyddai'n galluogi Cymunedoli i fod yn fwy effeithiol. Afraid dweud fod atgyfnerthu cymunedau yn atgyfnerthu'r Gymraeg.

Panelwyr:

  • Pryderi ap Rhisiart – Cadeirydd Antur Aelhaearn, menter gydweithredol a sefydlwyd ym 1970 dan ysbrydoliaeth Dr Carl Clowes

  • Elin Hywel – profiad helaeth o weithredu cymunedol gan gynnwys cynllun DOLAN yn ardaloedd y chwareli a Chyngorydd Sir Gwynedd

  • Dilwyn Llwyd – trefnu gigiau llwyddiannus yn Neuadd Ogwen, gan gynnwys Gŵyl Ara Deg, a dangos fod celfyddyd yn weithgarwch cymunedol

  • Selwyn Williams – yn weithgar efo Cwmni Bro Ffestiniog.

Croeso i bawb!