Taflu achos Toni Schiavone dros ddirwy parcio uniaith Saesneg o'r llys unwaith eto

Taflodd y dirprwy barnwr Owain Williams achos One Parking Solution yn erbyn Toni Schiavone o'r llys y bore yma (4 Awst), gan i’r cwmni parcio oedi gormod cyn lansio'r apêl a chyflwyno’r achos dan reolau anghywir.

Ymddangosodd Toni yn y llys yn yr achos gwreiddiol, fis Mai y llynedd, gan iddo wrthod talu dirwy parcio uniaith Saesneg. Ni ymddangosodd cynrychiolydd o One Parking Solutions yn yr achos hon, felly fe’i taflwyd allan.

Er bod cwnsel yn bresennol ar ran y cwmni taflwyd yr achos allan eto heddiw dros fater technegol.

Yn siarad yn y llys, dywedodd Toni Schiavone:

“Mae costau teithio cwnsel One Parking Solution yn unig yn fwy na fyddai wedi costio i gyfieithu’r ddirwy, ac me'r gost o gynnal yr achos llys ganwaith yn fwy na'r gost o ddarparu llythyr dirwy Cymraeg. Mae agwedd y cwmni wedi bod yn hollol ddirmygus ac yn hollol groes i hawliau siaradwyr Gymraeg.”

Gorchmynnodd y barnwr bod One Parking Solution yn talu costau teithio Mr Schiavone. Dywedodd y diffynydd y byddai'n rhoddi’r arian yma i elusen Ymchwil Canser Cymru.

Yn dilyn yr achos, dywedodd Siân Howys, Cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith:

“Rydym yn falch bod y barnwr heddiw wedi dyfarnu o blaid y diffynydd, fel yn yr achos debyg ddiweddar yng Nghaernarfon, pan ddyfarnodd Mervyn Jones-Evans nad oedd rhaid i ddiffynydd dalu dirwy uniaith Saesneg.

“Mae’n dod yn fwyfwy amlwg bod angen i’r cwmniau newid eu hagwedd tuag at y Gymraeg. Er mwyn rhoi pwysau arnyn nhw rydyn ni wedi lansio ymgyrch heddiw i annog pobl i beidio talu am barcio mewn meysydd parcio lle mae’r arwyddion yn uniaith Saesneg, na’r dirwyon sy’n deillio o hynny.”

"Dylai’r Llywodraeth osod Safonnau yn y maes hwn ac ar gyfer busnesau eraill, er fel archfarchnadoedd a banciau, fel bod rheidrwydd i’r sector breifat weithredu yn Gymraeg."