Cynhelir cyfarfod nesaf rhanbarth Ceredigion am 7 o'r gloch nos Fercher, 19 Mehefin yng Nghanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth. Bydd modd ymuno arlein hefyd (cysylltwch am ddolen).
Mae car dynes o Geredigion wedi cael ei gymryd gan feilïaid wedi iddi wrthod talu dirwy a gafodd am ei rhan yn yr ymgyrch i ennill pwerau darlledu i Gymru.
Dewch i gyfarfod Cell Pantycelyn yn y Llew Du, Aberystwyth ar y 27ain o Dachwedd am 7:30yh! Mae'n gyfle i ni drefnu digwyddiadau'r flwyddyn nesaf gyda'r Gell, a pharatoi at Bantycelyn yn agor ar ei newydd wedd yn 2020! Dewch yn llu!
Mae angen mynd i’r afael â’r argyfwng yn y farchnad dai sy’n ‘gwagio pentrefi Cymraeg’ - dyna fydd prif neges mudiad iaith mewn cynhadledd yn Aberystwyth heddiw (dydd Sadwrn, 12fed Hydref).