Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryderon am gynlluniau Prifysgol Aberystwyth i gau cwmni cyhoeddi sy’n cynhyrchu adnoddau dysgu Cymraeg.
Dywedodd Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Mae’r newyddion yma'n sicr yn destun pryder arall yn y sector. Mae'n siom bod y Brifysgol yn lleihau nifer yr unedau mewnol sy'n gweithio drwy'r Gymraeg ac yn lleihau cyfleoedd am waith drwy'r Gymraeg i gyflenwyr lleol. Mae sefyllfa addysg uwch yn troi’n argyfwng ieithyddol: gyda llai o ddarpariaeth Gymraeg, toriadau di-ri a mwy a mwy o fyfyrwyr o Gymru yn gadael y wlad i astudio.
“Mae’r cynnig i gau’r cwmni cyhoeddi yn enghraifft arall o Brifysgol yn cefnu ar ddarpariaeth sy’n llesol i’r Gymraeg am resymau masnachol. Mae diffyg gwerslyfrau Cymraeg yn broblem eisoes, oni ddylai Llywodraeth Cymru fod yn ymyrryd i sicrhau bod y staff yn parhau â’u gwaith pwysig? Drwy gau’r cwmni hwn byddwn yn colli dros 30 mlynedd o brofiad yn y maes ar adeg pan fydd y cwricwlwm yn newid a bydd angen datblygu adnoddau arbenigol newydd.”