Dyfodol Digidol

Consensws trawsbleidiol o blaid datganoli darlledu yn ‘drobwynt hanesyddol’

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu argymhellion adroddiad newydd gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Senedd sy’n galw am ddatganoli nifer o rymoedd darlledu i Gymru.

Sianel Gymraeg newydd ar yr awyr - Sianel62

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lansio sianel deledu Cymraeg newydd - "Sianel 62" - penwythnos hon (8yh, Dydd Sul, 19eg Chwefror) fel rhan o'u dathliadau hanner canmlwyddiant.

Sianel 62 fydd y sianel Gymraeg newydd gyntaf ers 30 mlynedd pan fydd yn mynd ar yr awyr ar sianel62.com ddydd Sul yma. Bwriad y Gymdeithas yw dangos rhaglenni heriol, gwleidyddol, doniol, dychanol, dwys ac ysgafn bob nos Sul rhwng 8-10yh.

Arbenigwyr yn annog Gweinidogion i sefydlu Awdurdod Cyfathrebu i Gymru

Mae dwsinau o unigolion blaenllaw y byd cyfathrebu a darlledu wedi annog Llywodraeth Cymru i weithredu argymhelliad panel arbenigol i sefydlu Awdurdod Darlledu cysgodol mewn llythyr agored a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun, 27 Tachwedd).

Cymdeithas yr Iaith yn ymuno â’r galw i wella cyllido cylchronau a chyfnodolion Cymreig

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi arwyddo llythyr agored gan yr awdur a’r darlledwr Mike Parker sy’n galw ar Lywodraeth Cymru, Cymru Greadigol a Chyngor Llyfrau Cymru i ailstrwythuro a wella cyllid craidd cylchgronau, cyfnodolion a gwefannau yng Nghymru, gan ddweud eu bod yn “allweddol” ar

Cyfarfod o'r Grŵp Dyfodol Digidol

11/12/2023 - 12:30

Cyfarfod dros Zoom fydd hwn.

Mae manylion pellach am y cyfarfod i ddilyn, ond dyma'r grŵp sy'n trafod materion yn ymwneud â darlledu a chynnwys Cymraeg ar-lein. Os ydych yn aelod ac efo diddordeb yn y maes, beth am ymuno â'r grŵp? Os nad ydych yn siwr, dewch i'r cyfarfod i gael blas ar y math o bethau y byddwn yn eu trafod.

Cysylltwch am ddolen i ymuno â'r cyfarfod, neu am wybodaeth bellach.

Cyfarfod grŵp Dyfodol Digidol

31/08/2023 - 10:30

Cyfarfod ar-lein

Ymunwch â chyfarfod rhithiol i drafod ymgyrchoedd y Gymdeithas i ddatganoli grymoedd dros ddatganoli i Gymru.

Cysylltwch â ni am ddolen i ymuno

 

 

Cymdeithas yr Iaith yn croesawu adroddiad “pwysig a phellgyrhaeddol” ar ddarlledu

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu adroddiad a ryddhawyd heddiw gan banel annibynnol ar ddarlledu sy’n argymell sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru. Sefydlwyd y panel gan Lywodraeth Cymru i ystyried dyfodol darlledu.

Meddai Mirain Owen, o Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:

Llywodraeth Cymru wedi Colli Cyfle i Ddiogelu S4C

Wedi i Carwyn Jones ddweud y byddai Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyfrifoldeb dros S4C petai'r Adran Diwylliant Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan yn darparu cyllid ar gyfer y sianel dywedodd Carl Morris, cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:

"Tro olaf i bwyllgor yn San Steffan ymgynghori ar ddarlledu yng Nghymru"

Wrth gyflwyno ymateb i ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan mae Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl mai dyma'r tro olaf i bwyllgor yn San Steffan ymgynghori ar ddarlledu yng Nghymru.

Dywedodd Mirain Angharad, is-gadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:

Ymateb i Ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan i Ddarlledu yng Nghymru

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i Ymchwiliad Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan i Ddarlledu yng Nghymru

Mae pdf ar gael i'w lawrlwytho yma
 

Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.