Consensws trawsbleidiol o blaid datganoli darlledu yn ‘drobwynt hanesyddol’

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu argymhellion adroddiad newydd gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Senedd sy’n galw am ddatganoli nifer o rymoedd darlledu i Gymru.

Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, yn nodi: “Barn y Pwyllgor yw y byddai rhoi mwy o gyfrifoldebau darlledu i’r Senedd a Llywodraeth Cymru yn gwella darpariaeth y cyfryngau yng Nghymru yn sylweddol. Dylai Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac Ofcom nodi sut y gellir gwella’r cynnwys a ddarperir ar y cyfryngau i gynulleidfaoedd yng Nghymru.”

“O ran penderfynu a ddylid datganoli Darlledu yng Nghymru, nid y cwestiwn i'w ofyn yw 'a ddylid datganoli darlledu?', yn hytrach, 'faint o ddarlledu y dylid ei ddatganoli?'"

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae’r “consensws trawsbleidiol hwn yn drobwynt yn hanes darlledu yng Nghymru”

Ymhlith yr argymhellion eraill, galwa’r adroddiad am ddatganoli pwerau dros S4C a materion eraill sy’n ymwneud â darlledu Cymraeg er gwasanaeth cyhoeddus, i Gymru”, yn ogystal â rhoi “rôl ehangach [i Lywodraeth Cymru] wrth bennu telerau’r drwydded Sianel 3 nesaf i Gymru”.

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Darlledu Cymdeithas yr Iaith, Elfed Wyn Jones:

“Mae hyn yn newyddion calonogol iawn. Yn dilyn blynyddoedd o ymgyrchu gan ymgyrchwyr, ceir yma, am y tro cyntaf erioed, gonsensws trawsbleidiol o blaid datganoli darlledu. Mae’r consensws trawsbleidiol hwn yn drobwynt yn hanes yr ymgyrch, ac yn wir, darlledu yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan yn yr ymgyrch yma dros y blynyddoedd, yn enwedig y rhai a wnaeth aberthiadau personol. 

“Er mwyn gwireddu dymuniad y Pwyllgor am ddatganoli grymoedd darlledu i Gymru, bydd angen i lywodraeth nesaf Cymru sefydlu corff rheoleiddio Cymreig newydd fyddai’n cymryd lle Ofcom. Byddai’r corff annibynnol hwn yn gyfrifol am reoleiddio meysydd cyfathrebu a thelathrebu er lles y Gymraeg a democratiaeth Cymru. Byddai modd iddo hefyd hyrwyddo’r defnydd o gynnwys Cymraeg a Chymreig ar holl blatfformau digidol, yn ogystal â dylanwadu ar y cwmnïau sy’n gweithredu yn y meysydd hyn. Credwn y byddai hyn yn hwyluso argymhellion yr adroddiad ac yn galluogi iddynt gael eu gweithredu yn effeithiol." 

Ychwanegodd:

“Mae’r adroddiad hwn yn rhoi mandad i ba bynnag plaid sy’n ffurfio’r llywodraeth nesaf. Mae hanfodol felly ein bod yn grymuso’r Senedd gyda’r holl bwerau fydd eu hangen er mwyn newid polisi darlledu a thelathrebu er lles y Gymraeg a democratiaeth Cymru. Dyma gyfle gwirioneddol inni aeddfedu fel gwlad ddemocrataidd a sicrhau y bydd y Gymraeg yn addasu’n ddigonol i’r oes ddigidol. Bydd sefydlu corff penodol, Cyngor Cyfathrebu Cenedlaethol, yn gwneud cyfraniad pwysig at gynyddu defnydd y Gymraeg yn yr oes ddigidol, fel rhan o agenda ‘Mwy na Miliwn’ ein llywodraeth genedlaethol nesaf.”