
Mae Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio dros gynnig yn galw am ddatganoli grymoedd dros ddarlledu i Gymru yn eu cyfarfod llawn ddydd Iau, 6 Mawrth.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu pasio’r cynnig sy’n galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain i nodi’r penderfyniad a gweithio tuag at drosglwyddo cyfrifoldeb dros ddarlledu o Lundain i Gaerdydd cyn gynted a phosib.
Dywedodd Mirain Owen ar ran Grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith:
“Rydym yn croesawu penderfyniad Cyngor Gwynedd i alw ar Lywodraeth San Steffan gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddechrau’r broses o ddatganoli grymoedd dros ddarlledu a’r cyfryngau i Gymru, ac i Lywodraeth Cymru fynd ymlaen gyda’r gwaith o baratoi gyda San Steffan ar y ffordd orau i wireddu hyn. Mae’n amserol bod hyn yn digwydd, fis diwethaf penderfynodd Capital Cymru ddod â’i ddarpariaeth Gymraeg ar draws gogledd Cymru i ben yn sgil deddfwriaeth newydd Llywodraeth Prydain.
“Dros y ddegawd diwethaf, mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd, y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a Llywodraeth Cymru yn datgan eu bod o blaid y polisi yma. Mae’n hen bryd i Lywodraeth Keir Starmer yn Llundain wrando ar y farn gyhoeddus yng Nghymru. Sicrhau rheolaeth dros ein cyfryngau ni yng Nghymru yw'r unig ffordd o ddiogelu a thyfu gwasanaethau a sicrhau eu ffyniant yn y dyfodol.”
Ym mis Tachwedd 2021, yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan ei bod “yn cytuno y dylai pwerau darlledu a chyfathrebu gael eu datganoli i'r Senedd.”
Fis Mawrth y llynedd, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i sefydlu Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu i Gymru, i fynd ati i fraenaru’r tir ar pwerau datganoledig yn y maes darlledu a chyfathrebu. Ni fu cyhoeddiad pellach ers hynny.
Dywedodd Elfed ap Elwyn, a gyflwynodd y cynnig:
“Rhaid dweud fy mod i'n hynod hapus bod Cyngor Gwynedd wedi pasio cynnig sy'n dweud bod angen datganoli grymoedd darlledu i Gymru.
“Mae wedi dod yn amlwg nad yw Cymru yn cael darlun llawn pan daw hi at drafod materion allweddol i ni fel cenedl ac nad yw’n cyfryngau wedi cael yr un cyfle i dyfu ag mewn gwledydd eraill, oherwydd diffyg rheolaeth dros gyfryngau ein gwlad. Rwan, dwi isio gweld trafodaethau yn dechrau rhwng San Steffan a Llywodraeth Cymru.”