Heddiw, wrth agor pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin cyhoeddodd Jeremy Wright, Ysgrifennydd Gwladol San Steffan dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon nad oedd erioed wedi gwylio'r sianel.
Mae ffermwr o Ynys Môn wedi cael ei ddyfarnu i dalu £220 mewn gwrandawiad llys yng Nghaernarfon heddiw fel rhan o ymgyrch i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru.
Mae Heledd Gwyndaf o Dalgarreg, Ceredigion wedi cael ei dedfrydu i dalu £170 wedi iddi ymddangos gerbron llys yr ynadon yn Aberystwyth heddiw (ddydd Mercher y 10fed o Hydref) am wrthod talu ei thrwydded deledu.
Achos Llys Heledd Gwyndaf: Yr Ymgyrch dros Ddatganoli Darlledu i Gymru
Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Heledd Gwyndaf yn mynd gerbron y llys am wrthod talu ei ffi drwydded deledu fel rhan o'r ymgyrch i ddatganoli grymoedd darlledu i Gymru.