Wrth i fyfyriwr yn Aberystwyth ddechrau ymatal rhag bwyta heddiw (dydd Mawrth, 20fed Chwefror) am gyfnod o saith diwrnod, mae mudiad iaith wedi galw ar i Aelodau Cynulliad gefnogi datganoli pwerau darlledu i Gymru.
Mae Elfed Wyn Jones, sy'n ymprydio am wythnos, yn 20 mlwydd oed a chafodd ei fagu ar y fferm deuluol yn Nhrawsfynydd yng Ngwynedd. Mae e'n astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth tra'n parhau i weithio ar y fferm. Cyfarfu â Dafydd Elis Thomas ei Aelod Cynulliad lleol a Gweinidog Darlledu Llywodraeth Cymru ddoe (4pm, dydd Llun, 19eg Chwefror) i drafod yr ymgyrch.
Cafodd adolygiad annibynnol o S4C ei gyflwyno i'r Llywodraeth ers cyn y Nadolig, ond mae oedi rhag ei gyhoeddi yn golygu nad yw'r darlledwr yn gwybod beth fydd ei gyllideb o fis Ebrill eleni ymlaen. Yn 2013, daeth Comisiwn Silk – adolygiad trawsbleidiol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Prydain – i'r casgliad y dylai rheolaeth dros gyfraniad ariannol Llywodraeth Prydain i S4C gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.
Meddai Elfed Wyn Jones, a fydd yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn ymprydio yn swyddfa Cymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth ac yn ysgrifennu'n bersonol at bob Aelod Cynulliad yn ystod y cyfnod hwnnw:
“Rydw i'n gobeithio y bydd fy ngweithred yn dangos mor ddifrifol yw'r angen i gael rheolaeth yng Nghymru ar ddarlledu. Mae'n mynd i fod yn anodd. Ond wrth feddwl am beth fydd hyn yn ei gyflawni ar gyfer pobl Cymru - gwell democratiaeth, gwybodaeth gliriach a chryfhau sefyllfa'r Gymraeg- fydd hynny'n rhoi cryfder i mi frwydro nes bwrw'r maen i'r wal. Rwy'n derbyn fy nghyfrifoldeb i weithredu – gobeithio y bydd ein gwleidyddion yn cymryd eu cyfrifoldebau hwythau hefyd. Mae'n bryd i Gymru gael llais, ac i ni fel pobl allu cael y sgyrsiau cenedlaethol i wella'r ffordd mae'r wlad yn cael ei llywodraethu."
Yn ôl canlyniadau’r arolwg YouGov y llynedd, mae 65% o bobl yn cefnogi rhoi’r cyfrifoldeb dros y cyfryngau yn nwylo’r Cynulliad tra bod dim ond 35% eisiau i wleidyddion yn San Steffan gadw’r grym.
Fis Chwefror y llynedd cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyfarfod traws bleidiol yn San Steffan i drafod datganoli darlledu, mae dros hanner cant o bobol yn gwrthod talu eu trwyddedu teledu fel rhan o'r ymgyrch ac mae deiseb wed'i chyflwyno i Lywodraeth Prydain a llythyr cyhoeddus oddi wrth enwogion.
Meddai Aled Powell, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith:
"Diolch yn fawr i Elfed am ei safiad dewr sy'n adlewyrchu'n glir dyhead pobl ar lawr gwlad y dylai penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru. Mae tua dau draean o'r boblogaeth yn cefnogi'r ymgyrch: mae'n bryd i'n cynrychiolwyr yn y Cynulliad adlewyrchu'r gefnogaeth gref hynny. Wedi'r cwbl, mae'n gwbl hanfodol i'n democratiaeth fod y pwerau yn dod i ni. Dyna'r unig ffordd mae pobl yn mynd i ddeall pwy sy'n gwneud penderfyniad yn ein henw. Ar hyn o bryd, mae llai na hanner y boblogaeth yn deall bod iechyd yn fater sy'n cael ei benderfynu yn ein Senedd ni yng Nghymru. Mae hynny oherwydd bod y rhan helaeth o'r rhaglenni ar ein sgriniau yn drysu Lloegr a Phrydain drwy'r amser.
"O ddiffyg presenoldeb y Gymraeg ar radio masnachol, teledu lleol a’r toriadau difrifol i S4C i’r diffyg cynnwys Cymreig yn y cyfryngau, mae’n glir nad yw Llundain yn rheoli'r cyfryngau er budd pobl Cymru. Mae gan Gymdeithas yr Iaith Bapur Trafod sydd yn cynnig y manylion ar sut y gall datganoli darlledu i Gymru edrych. Mae’n bryd datganoli darlledu i'n Senedd ni yng Nghymru ac hynny ar frys.”