Mae mudiad iaith wedi croesawu lansiad Radio Cymru 2 gan ddweud ei fod yn 'gam yn y cyfeiriad iawn' a bod angen datganoli pwerau darlledu i Gymru er mwyn normaleiddio'r Gymraeg ar draws y cyfryngau.
Meddai Aled Powell, Cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'n adeg i ddathlu'r cam yma i'r cyfeiriad iawn, cam tuag at sicrhau bod pawb yn gallu dewis byw eu bywydau yn Gymraeg. All un orsaf ddim bod yn bopeth i bawb, felly rydym yn croesawu bod mwy o amrywiaeth o ran cynnwys fel bod gan wrandawyr rhywfaint o ddewis. Mawr obeithiwn y daw cadarnhad y bydd yr orsaf newydd hon yn un barhaol ac yn wasanaeth lawn yn y pendraw. Rydym yn gwybod bod staff Radio Cymru wedi gweithio'n galed iawn ar y fenter hon ac maen nhw'n haeddu pob llwyddiant. Wrth edrych ymlaen, mae'r angen i ddatganoli darlledu yn fwy nag erioed er mwyn osgoi sefyllfa ble mae un darparwr yn dominyddu ein cyfryngau yng Nghymru, yn enwedig yn y Gymraeg."
Ychwanegodd:
"Dan y gyfundrefn bresennol o reoleiddio o San Steffan, rydyn ni'n gweld a chlywed llai a llai o Gymraeg ar ein cyfryngau lleol a masnachol. Wedi dirywiad difrifol y Gymraeg ar orsafoedd fel Radio Ceredigion a Radio Sir Gâr, mae gwir angen atal hyn drwy ddatganoli grymoedd darlledu i'r Senedd yng Nghymru.
"Mae'r ddogfen ymchwil rydyn ni wedi cyhoeddi yn dangos drwy ddatganoli darlledu y bydd modd buddsoddi degau o filiynau o bunnau'n fwy yn darlledu yng Nghymru, gan sefydlu tair gorsaf radio a thair sianel teledu Cymraeg yn ogystal â chynnal rhai dwyieithog. Felly mae'r ymgyrch dros ragor o wasanaethau yn parhau. Os ydym am gael gwasanaethau teilwng i Gymru a'r Gymraeg, a'r rheini gan blwraliaeth o ddarparwyr, mae'n rhaid i bobl Cymru allu llywio ein system gyfryngol ein hunain."