Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i sylwadau gan Brif Weithredwr newydd S4C nad yw'n credu y bydd adolygiad annibynnol o'r sianel yn dod â mwy o incwm i'r darlledwr.
Wrth ymateb i'r sylwadau, meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:
Bydd modd gwario dros £60 miliwn yn fwy ar ddarlledu cyhoeddus a sefydlu tair sianel deledu a thair gorsaf radio Cymraeg, os caiff y pwerau eu datganoli i Senedd Cymru, yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd ar faes yr Eisteddfod heddiw.
Mae grŵp o wleidyddion o'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru wedi galw ar i Lywodraeth Prydain ystyried datganoli darlledu fel rhan o adolygiad S4C mewn llythyr agored cyn cyhoeddiad am y sianel heddiw.
Yr wythnos diwethaf, daeth pwyllgor diwylliant y Cynulliad i'r casgliad y "dylai’r cwestiwn [am ddatganoli darlledu] fod yn rhan o adolygiad [San Steffan o S4C]."