Cymru o blaid datganoli darlledu, medd arolwg barn

Mae mwyafrif clir o bobl Cymru eisiau datganoli darlledu o San Steffan i Gymru, yn ôl arolwg barn YouGov a gyhoeddwyd heddiw (dydd Llun, 22 Mai).     

Yn ôl canlyniadau’r arolwg a gomisiynwyd gan Gymdeithas yr Iaith, mae 52% o bobl yn cefnogi rhoi’r cyfrifoldeb dros y cyfryngau yn nwylo’r Cynulliad tra bod dim ond 27% eisiau i wleidyddion yn San Steffan gadw’r grym. Gan eithrio’r bobl a ddywedodd nad oedden nhw’n gwybod, roedd 65% o blaid datganoli a 35% yn erbyn datganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru.  

[Cliciwch yma i ymuno â'r boicot o'r ffi drwydded]

Roedd y gefnogaeth i ddatganoli darlledu ar ei chryfaf ymysg y rhai a bleidleisiodd dros Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn 2015, gyda 61% o'r rhai a gefnogodd blaid Carwyn Jones, 62% o Ddemocratiaid Rhyddfrydol a 83% o’r rhai a gefnogodd blaid Leanne Wood yn awyddus i drosglwyddo'r grym i Fae Caerdydd.  

[Cliciwch yma i anfon e-bost at eich ymgeisydd San Steffan lleol]

Daw’r newyddion wedi i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi bod dros hanner cant o bobl bellach yn gwrthod talu am eu trwyddedau teledu fel rhan o ymgyrch i sicrhau bod y pwerau yn cael eu trosglwyddo i’r Senedd ym Mae Caerdydd.     

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

“Mae’n galonogol iawn gweld bod cefnogaeth gref i’r ymgyrch. Dylai penderfyniadau dros ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud gan bobl Cymru. Rydyn ni wedi cael hen ddigon o Aelodau Seneddol yn Llundain nid yn unig yn gwneud toriadau i’r cyfryngau Cymraeg, ond hefyd yn teyrnasu dros system sy’n rhoi cyn lleied o sylw i faterion Cymreig a chyfryngau nad ydynt yn adlewyrchu bywydau pobl yng Nghymru. Felly, rydyn ni’n pwyso am ddatganoli’r pwerau hyn nid er lles y Gymraeg yn unig, ond er lles democratiaeth Cymru hefyd. Mae diffyg cynnwys Cymreig a Chymraeg ar y cyfryngau yn bygwth parhad datganoli, ac mae’n rhaid mynd i’r afael â’r mater. 

“Yn yr Alban, bydd gyda nhw sianel deledu newydd sbon flwyddyn nesa, ond dim ond briwsion rydyn ni’n eu cael o gymharu. Mewn gwledydd datganoledig fel Gwlad y Basg a Chatalwnia, mae pwerau dros y maes wedi cael eu datganoli, ac mae eu cyfryngau nhw yn llawer iawn mwy datblygedig o ganlyniad - gyda sawl sianel deledu a gorsaf radio eu hunain. Gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio’r pwerau deddfwriaethol ac ariannol yn y maes i normaleiddio cynnwys Cymraeg a chynnwys am Gymru. 

“‘Sdim ond angen edrych ar y sianel deledu leol newyddMade in North Wales’, gyda’i phencadlys yn Lerpwl yn darlledu dim ond 3% o’r allbwn yn Gymraeg a 16% ohono’n lleol, i weld y broblem. Ddylai’r awdurdodau ddim caniatáu i hyn ddigwydd - gyda difaterwch San Steffan, datganoli yw’r unig ateb.”

Y stori yn y newyddion:

http://www.itv.com/news/wales/2017-05-22/poll-reveals-many-want-broadcasting-powers-devolved-to-wales/

http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/264360-mwyafrif-o-blaid-datganoli-darlledu-i-gymru

[Cliciwch yma i agor yr ystadegau llawn]